Sut gall dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg?

NODYN: Mae’r erthygl hon wedi ygrifennu’n wreiddiol ar gyfer Parallel.cymru a wnaethom nhw cynnig yn caredig i rhannu fe. Er mwyn darllen yr erthygl yno, dilynwch y ddolen yma.

Weithiau, fel dysgwyr dyn ni’n gallu meddwl ei fod yn anodd cyfrannu i fyd y Cymry Cymraeg. Yma, mae Neil Rowlands a chyfranwyr i’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn siarad am eu gwaith ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor.

Bydd y chwech ohonom ni- Neil, Dani, Nicky, Patrick, Peter & Sam siarad am hyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:

Dydd Sadwrn 04/08, 15:10 yn Shw’mae Caerdydd (Adeilad Pierhead / Pierhead Building); mynediad am ddim.

Sut-all-dysgwyr-gyfrannu-at-fywyd-Cymry-Cymraeg-1


Dani Schlick
Aelod o gymuned leol ac wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017

Sut all dysgwyr Cymraeg gyfrannu at fywyd Cymraeg? – Ymhob ffordd bosibl fel pobl sydd yn cyfrannu at fywyd pobl a chymunedau.
Beth bynnag sydd yn digwydd yn y Gymraeg mewn unrhyw gyd-destun a dach chi’n rhan o’r digwyddiad – boed yn y gymuned, yn y gwaith neu yn eich amser sbâr – dach chi’n cyfrannu at fywyd Cymraeg.
DanielaEnghraifft wych ydy Siân, un o fy ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg, sydd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Alltwen Porthmadog. Dechreuodd hi ddysgu’r Gymraeg achos bod hi – yn Gymraes – isio siarad hen iaith ei gwlad a thrin cleifion yn eu hiaith nhw. Yn ei gwaith mae hi’n mynd i gartrefi cleifion yr ardal, sef Porthmadog, Beddgelert a Blaenau Ffestiniog – ardal Gymraeg iawn. Er mwyn i’r cleifion deimlo’n fwy cyfforddus mae hi’n bwysig iawn siarad eu hiaith gyntaf efo nhw. Mae cleifion Siân yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ac fel bonws bach mae Siân yn dysgu cymaint am iaith yr ardal ac mae hi bellach yn siarad “iaith y brodorion”.
Rydw innau’n siarad Cymraeg ym mhob cyd-destun posibl – efo cydweithwyr yn y gwaith ac wrth gwrs yn fy amser sbâr. Braint a phleser mawr oedd bod yn rhan o gôr yr Eisteddfod yn Ynys Môn 2017 – côr Cymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd yna rai pobl yn y côr oedd yn fy nabod i, ond ddudes i ddim gair wrth neb arall mai dysgwraig Gymraeg ydw i – siarad Cymraeg efo pawb wnes i o’r cychwyn cyntaf. Ella bod aelodau’r côr wedi amau nid siaradwraig iaith gyntaf ydw i.
Felly am syndod iddyn nhw pan gyrhaeddais rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 – braint a phleser arall, gyda llaw. Agoriad llygaid oedd sylweddoli pa mor bwysig ydy cynnwys dysgwyr yn nigwyddiadau Cymraeg a siarad yr iaith efo dysgwyr. Felly, mewn ffordd cyfrannodd hyn at y ffordd maen nhw’n gweld dysgwyr Cymraeg rŵan.
Gadewch i mi roi ychydig o gyngor i chi: Peidiwch â sôn mai dysgwr ydach chi – beth bynnag ydy eich lefel. Smaliwch! Bydd pobl yn sylwi wrth i chi siarad. Ond trwy beidio â dweud y gair “dysgwr” bydd y sgwrs yn fwy naturiol o’r dechrau. Ac unwaith dach chi wedi dechrau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi!


Neil Rowlands
Sylfaenedd, parallel.cymru

Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyon, heriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a’i sefydliadau.

Neil-with-laptop-265
Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda’r term dysgwr.
Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o’r cyfweliadau hynny, derbyniais i’r cwestiwn “Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?”, ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr! Beth bynnag, roedd y broses o sgwennu’r cais yn y Gymraeg a hala amser yn paratoi am y cyfweliad wedi rhoi oriau o amser cyswllt i mi, ac roedd y teimlad fy mod wedi sefyll ar fy nhraed fy hun i gyflwyno cais uchelgeisiol mewn iaith roeddwn i yn dal i’w dysgu wedi rhoi hwb anferth i fi.
Yn hydref 2017 sylweddolais i fy mod i mewn sefyllfa ‘catch-22’ – roeddwn i’n moyn integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, ond doedd dim cyfleoedd i wneud hynny yn fy swydd. Roedd fy niffyg profiad o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy rhoi i dan anfantais wrth gymharu gydag ymgeiswyr eraill, beth bynnag oedd safon fy Nghymraeg.
Sylweddolais fod gen i benwythnosau a nosweithiau i’w defnyddio, a doedd dim angen ffeindio swydd neu gyllid i wneud rhywbeth – gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i’n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro’n i’n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny.
Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllid a gweledigaeth y llywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae’n bwysig i’r gymuned arloesi a thrio pethau newydd.
Mae’r prosiect delfrydol yn cyfuno rhywbeth rydych yn gwybod sut i’w wneud gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn yn gwybod sut i greu a hyrwyddo gwefannau, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud i’r Gymraeg fod yn iaith hygyrch.
Tu ôl y llen, dw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth; mae rhai pobl wedi rhoi o’u hamser i wella safon y cynnwys ar parallel.cymru, e.e. Elgan Davies-Jones, David Sutton a Patrick Jemmer (nodyn- os oes unrhyw wallau iaith ar parallel.cymru, fi sy’n gyfrifol, nid nhw). Hefyd, mae’n rhyfeddol gweld pobl fel Dani, Huw Rowlands, Nicky a Peter yn defnyddio eu amser yn hael i rannu eu sgiliau a’u profiad trwy beth maen nhw’n wneud.
Mae’r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau – os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o’r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?


Nicky Roberts
Sylfaenydd useyourwelsh.com & youtube.com/learnwelshwithnicky; wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2018

Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd.
Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â ‘mheintiau yn ôl i’m sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.
Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990.
DSC_0089_2Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda ‘nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny – ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith.
Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i’r rhaglen ‘Say Something in Welsh’. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 350 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd.
Mae’r peth pwysicach dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd http://www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog.
Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i’m llwyddiant dysgu’r iaith – doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre’n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o’i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd!
Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith.


Patrick Jemmer
Cyfieithydd Ask Dr Gramadeg, tiwtor a cyfrannwr rheolaidd i parallel.cymru

Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg yn Nhŷ Tawe yng nghanol Dinas Abertawe, pan ddes i adref o Newcastle lle ro’n i wedi bod yn gweithio, ac rwy wedi bod wrthi ers chwe blynedd erbyn hyn. Rwy’n dwlu ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymreig, ac rwy wastad yn ceisio ymarfer, rhannu syniadau a’m cariad at yr iaith, a dysgu mwy. Ro’n i’n lwcus iawn pan enillais i Dlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 gyda darn o’r enw ‘Pontydd’.
Dros y cyfnod 2012 – 2014 ro’n i’n astudio hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ‘Tystysgrif Addysg Uwch’ mewn Ysgrifennu Creadigol a Seicotherapi (yn Saesneg), gan gynnwys llawer o ymarferion wedi’u seilio ar ‘Ysgrifennu’r Hunan’, a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2014. Felly roedd llawer o syniadau ‘da fi am bynciau ac awgrymiadau creadigol pan ddechreuais i greu cynnwys ar gyfer Parallel.cymru.
Er bod y gwaith Saesneg eisoes wedi cael ei gywiro gan diwtoriaid (diolch yn fawr iawn i Mr Andrew Hubbard a Dr Catriona Ryan am eu cymorth a’u hadborth i gyd), dwi ddim yn cyfieithu fy ngeiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg, fodd bynnag. Erbyn hyn, rwy’n ‘sgrifennu’n syth yn Gymraeg. Profiad mor wych yw meddwl a chyfathrebu yn y Gymraeg. A dweud y gwir yn aml mae’n well ‘da fi sut mae fy ‘llais creadigol’ yn swnio yn y Gymraeg. Rwy’n dwlu ar yr iaith! Nawr rwy’n arbrofi gyda darnau ffeithiol, rhai hunanfynegol, tipyn bach o hiwmor (gweler Ffred Phantastiga’i gastiau — ha ha ha!), a hyd yn oed ychydig ffuglen wyddonol.
Wedyn sefais i’r arholiad Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Ail Iaith fis Mehefin 2017, ac enillais i ‘ragoriaeth.’ Bellach rwy’n ‘neud llawer iawn o waith aruthrol ddymunol i’r wefan Parallel.Cymru, fel awdur, a chan helpu gyda golygu a chyfieithu. Cwrddais i â Neil, reolwr y prosiect yn ystod y dosbarthiadau Cymraeg. Wrth gwrs mae’r proses i gyd yn golygu dysgu drwy’r amser, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau derbyn adborth a chyweiriadau, gan nad ydw i’n arbenigwr, a chan fod pob sylwad adeiladol yn helpu fi i ddysgu a gwella, a dyna f’agwedd at ddysgu a defnyddio iaith. Wedi dweud hynny, rwy’n gallu mynd i’r dafarn a chwrdd â phobl newydd gan sgwrsio yn y Gymraeg heb unrhyw broblemau o gwbl! A heb os, mae’r ysgrifennu a phrawf-ddarllen ac yn y blaen wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.
Rwy’n hunangyflogedig ar hyn o bryd. Y peth sy’n f’ymysgogi’n gryfa’ yw chwilfrydedd enfawr, ac awydd archwilio pethau newydd, gan ddatblygu a mynegi gallu creadigol. Rwy’n dwlu ar ehangu fy neall a’m dirnadaeth ac ar helpu pobl eraill i ‘neud yr un peth ac i fynd â’r maen i’r wal mewn beth bynnag maen nhw eisiau ei ‘neud.
Rwy’n dysgu gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg i bobl sy’n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hyd yn oed i rai sy’n fyfyrwyr mewn prifysgolion. Rwy wedi bod yn gweithio gyda sawl myfyriwr sy’n mynd i ysgolion cyfun. Rwy’n gweithio wyneb yn wyneb, gyda grwpiau, a thros y rhyngrwyd. Rwy eisiau defnyddio’r iaith Gymraeg yn fwyfwy gyda myfyrwyr, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy weithio fel tiwtor iaith Gymraeg i bobl ifanc ac oedolion hefyd.
Felly, dych chi’n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud ‘shw mae’ yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu’ch profiadau neu’ch syniadau ar Parallel.cymru. Mae pobl yma i’ch helpu chi, felly peidiwch bod yn ofnus. Fel ro’n i’n ddweud, er mod i’n dwlu ar ramadeg, rwy wastad yn dysgu rhywbeth newydd, ac rwy’n dweud diolch o’r galon i bawb sy’n helpu fi. Y peth mwya’ pwysig yw ein bod ni’n gyfeillgar iawn, yn danbaid dros yr iaith, yn gweithio fel tîm, gan annog ein gilydd wrth hybu’r iaith. Pam na fyddwch roi cynnig arni gan ymuno â ni ar ein taith darganfod i’r iaith a diwylliant Cymraeg? Mae’n anhygoel o werth chweil, a llawn hwyl hefyd!


Peter Mescall
Ysgrifennwr Newyddion i Ddysgwyr Newydd a threfnwr cyrisau i ddysgwyr

Tua dwy flynedd yn ôl, o’n i chwilio am rywbeth i wneud. O’n i wedi siarad efo athro arall yn yr ysgol. Gaeth o ei fagu yn y Gogledd ond yn wreiddiol gaeth o ei eni yn Lerpwl. “Siarad Cymraeg?” meddai. Do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Ac wedyn, o’n i’n meddwl: “Pa mor gywilydd- fedra i ddim yn ymateb yn y Gymraeg”.
Felly, mi wnes i benderfynu dysgu’r iaith; yn gyntaf efo Say Something in Welsh. Mae’r cwrs yn wych ond ar y pryd o’n i isio rhywbeth arall. O’n i isio dysgu mwy felly wnes i drio trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr.
Wedyn, o’n i’n darllen parallel.cymru. Mi wnes i sylweddoli bod dysgwyr angen pethau er mwyn helpu nhw dysgu geirfa newydd. Wnes i anfon neges at Neil….”Liciwn I drio sgwennu’r newyddion yn y Gymraeg- cyfle i ymarfer darllen a hefyd dysgu geiriau newydd”
A dyna ni. Dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i mor falch oherwydd bod pawb yn medru cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg dros y penwythnos. Hefyd y newyddion- dw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau cyfrannu’r newyddion.
Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo eich bod chi’n cael y cyfle i wella hefyd.


Sam Brown
Ieithydd a Swyddog Marchnata Digidol i Wasg Gomer

Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i’n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i’n gwybod mod am ddysgu mwy o’r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i’n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu’r iaith.
Ers wedyn mae’r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i’m bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol.
Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru.
Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cwarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio.
Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd.
Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s