Dych chi wedi meddwl am gael tiwtor Cymraeg?

Dych chi’n dysgu Cymraeg? Dych chi’n ffeindio fe yn anodd i ffeindio siaradwr profiadol i ymarfer gyda? Ydy eich iaith dysgu yn taro wal? Dych chi wedi meddwl am cyslltu efo tiwtor Cymraeg am tiwtorio anffurfiol?

Dw i newydd ddechrau’r gwefan Italki, sydd yn cynnig tiwtorio anffurfiol a ffurfiol o nifer o ieithodd i myfyrwyr reit dros y byd i gyd – a tra fy mod i’n ffeindio fy nhroed ar y rhaglen byddai’n cynnig tiwtorio anffurfiol am cost isel.

italki

Fel siaradwr rhugl, sydd wedi dysgu’r iaith fy hun – Dw i’n deall yn llwyr sut mae dysgwyr yn teimlo fel a dw i’n deall llawer o’r problemau dysgwyr Cymraeg gallu cwymp i mewn.

Dw i wedi bod yn gwneud tiwtorio ers bron 18 mis a wedi cael cyfradd llwydiant uchel efo fy nysgwyr.

GwersiCymraeg.jpg

Dw i’n gallu cynnig gwersi prawf sydd rhedeg am 30 munud ac yn siepach ychydig bach er mwyn helpu chi gwneud yn siwr bydd y rhaglen yn gweithio i chi.

Os unrhyw ddiddordeb gyda chi yn drefu gwers, ymwelwch fy tudalen Italki: www.italki.com/thenickyroberts neu anfonwch ebost i fi learnwelshwithnicky@gmail.com

 

Advertisements

Wyt ti isio dysgu Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg?

Dych chi isio dysgu Ffrangeg trwy’r cyfrwng y Gymraeg, neu dych chi isio dysgu y Gymraeg trwy’r cyfrwng Ffrangeg?

Oedd hwnna yn llond ceg tydi?

Shwmae… Nicky ydw i – Dw i wedi bod yn rhedeg y sianel YouTube “Learn Welsh with Nicky” am tua 2 flwyddyn nawr, 21 misoedd-ish.

Mae gen i lawer o ffrindiau Cymry Cymraeg pwy oedd isio dysgu Ffrangeg, ond oedd well gyda nhw dysgu’r iaith trwy’r Cymraeg na rhaid iddo nhw “piggy back” dros eu ail-iaith, Saesneg.

Avatar

Hynny ydy’r problem… Bron bob un ffordd i ddysgu ieithoedd sydd ar gyfer y fyd o siaradwyr Saesneg. Googlwch “Dysgu Ffrangeg” a fydd 99.99% y canlyniadau ar gyfer cyrsiau trwy’r cyfrwng Saesneg – ond am beth am siaradwyr Cymraeg fel ni?

Bydd hyn yn rhywbeth bo fi’n gallu helpu gyda… gobeithio. Dw i wedi mynd a chreu cwrs 10 awr yn y Ffrangeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg, sydd llawer o Ffrangeg go-iawn – nid yn unig pethau fel sut i ddweud eich enw (wnei di ddim yn dysgu hwnna tan y 9fed awr!) neu pethau boring – pethau defnyddiol yn gwir, fel sut i brynu beintiau mewn dafarn, mynd o gwmpas y dref, gofyn pobl am eu barn, cael sgwrs a pethau eraill sydd yn ddefnyddiol. Byddech chi’n ddysgu sut i ddefnyddio ‘past tense’ yn 3 ffyrdd gwahanol, sut i ddefnyddio’r ‘future tense’ yn 3 ffyrdd gwahanol yn ogystal dysgu llawer o geirfa ar y ffordd.

Deg awr? Ie, dyna ni, siwr i fod bydd llai na hwnna i fod yn onest achos y degfed awr ydy “awr ymarfer”

Est-ce que tu parle le Francais et veux apprendre le Gallois? Pourquoi pas?

Cyfweliad: Aran Jones, SaySomethinginWelsh

Wythnos diwethaf, ges i’r cyfle i eistedd lawr gyda Aran Jones ei hun, dyn sydd yn enwog am creu y rhaglen dysgu poblogaidd “Say Something in Welsh“. Gofynnais i iddo fe sut mae SSIW wedi newid ei fywyd a mwy o bethau…

Helo Aran, Ga i ddiolch i ti am dy amser! Wrth ddarllen dy lyfr a dod i adnabod ti, es ti ar ychydig bach o daith pan o’ti’n tyfu i fyny. Wyt ti’n meddwl bod hynny wedi cael effaith arna ti ac ieithoedd?

Dwi ddim yn siwr, ond mae’n bosib. Fel ti’n dweud, ges i fyw mewn tipyn o wledydd gwahanol – Cymru, Lloegr, yr Almaen, Portiwgal, Sri Lanka, Malaysia fel plentyn ac wedyn Zimbabwe a Dubai fel oedolyn. Mae clywed llawer o ieithoedd wedi bod yn normal i mi ers yn ifanc iawn, felly, ond wnes i ddim llwyddo i ddysgu dim un ohonyn nhw cyn i mi ddysgu Cymraeg. Dysgu Cymraeg oedd y profiad pwysicaf i fi o ran sut dwi’n meddwl am ieithoedd, dwi’n credu.

SSIW

Mae’n debyg bod nifer bach o bobl yn sylweddoli bod ti wedi dysgu Cymraeg dy hun, mae’n braith yn hawdd i feddwl bod ti wedi bod yn siarad yr iaith ers o’ti’n blentyn. Alla’ti cofio yr union eiliad wnes ti ddewis i ddechrau dysgu’r iaith dy hun?

Roedd fy Nhaid yn siarad Cymraeg – ond dim efo’r teulu, yn anffodus – felly roedd rhai geiriau Cymraeg yn rhan naturiol o fy Saesneg – ‘tyrd yma’, ‘cau’r drws’, y math yna o beth. Felly o’n i wastad yn gwybod bod rhaid i mi ddysgu rhywbryd – o’n i wastad yn gwybod bod y Gymraeg yn perthyn i mi. Dwi’n cofio potsian efo pethau fel Linguaphone pan o’n i yn y brifysgol, ac ambell i lyfr dysgu arall, ond y gwir oedd nad oedd yr un ohonyn nhw yn gweithio i mi. Ac lle bynnag oeddan ni’n mynd i fyw, byddwn i’n trio dysgu rhywfaint o’r iaith leol, er mwyn gweld os fysai modd i mi ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus rhyw ddiwrnod – ac methu bob tro fuodd yr hanes. Does gen i ddim gallu naturiol o ran dysgu ieithoedd, ac oedd ofn mawr arna i na fyddwn i byth yn llwyddo i ddysgu’r Gymraeg. Pan ddes i adref o Dubai, o’n i’n gwybod fod yr amser wedi cyrraedd – a dwi jesd yn fythol ddiolchgar bod y drefn Wlpan wedi helpu fi i lwyddo efo’r Gymraeg lle o’n i wedi methu efo pob iaith arall o’n i wedi trio dysgu.

Siarad am hynny…Ydy pobl yn ffeindio e anodd i credu bod mae Cymraeg ydy dy ail-iaith?

Fel arfer, mae pobl yn gwybod yn syth nad ydw i’n dod o’u hardal nhw, ac weithiau maen nhw’n ddigon caredig i ddweud fod o’n syndod clywed mai siaradwr ail iaith ydw i – sydd yn rhoi gwên ar fy wyneb, wrth gwrs. Mae Catrin yn honni nad oedd hi’n deall mai dysgwr o’n i pan wnaethon ni gyfarfod, ond dwi’n amau bod hynny oherwydd iddi beidio gwrando llawer arna i.

ssiw

Mae ‘Say Something in Welsh’ wedi dod un o ffyrdd mwyaf poblogaidd i ddysgu’r iaith. Heb gofyn i ti ddweud dy stori fywyd – sut wnaeth hynny yn ddechrau?

Ar ol methu dysgu llawer o ieithoedd, daeth lwyddo efo’r Gymraeg fel tipyn o sioc – ac wedyn ges i’r Sbaeneg yn eithaf rhwydd – a dechrau meddwl mai dim fi oedd y problem efo’r holl ieithoedd eraill o’n i wedi methu dysgu.

Adeg hynna, wnes i ddechrau meddwl am beth oedd yn gweithio, a beth nad oedd – ac wedyn wnes i feddwl byddai’n ddiddorol creu cwrs Sbaeneg. Wnes i siarad efo rhywun o’n i’n nabod oedd yn helpu pobl i ddechrau prosiectau/busnesau – ond roedd ei ffrindiau buddsoddi yn dweud bod dysgu ieithoedd yn llawer rhy gystadleol, a fyddai neb yn fodlon ymrwymo arian i’w ddatblygu.

Geirfa i ddysgwyr

Buddsoddi – Invest
Methodoleg – Methodology
Manaweg (Fanaweg) – Manx
Syrfdanol – Stunning, astounding.

Ond wedyn wnaeth o daro fi – doedd dim angen arian i ddechrau adeiladu beth o’n i wedi bod yn meddwl amdani taswn i’n gwneud o ar gyfer y Gymraeg. Wnes i ddechrau adeiladu gwersi efo Catrin, fy ngwraig, ac wedyn gofyn i Iestyn drosi’r gwersi i iaith y De – ac erbyn i ni adeiladu 15 o wersi, wnaethon ni gyhoeddi nhw ar Facebook, a dechreuodd pethau tyfu.

Ar y bryd oeddech cychwyn bwriadau ‘Say Something in Welsh’ Oedd yna lawer o ffyrdd i ddysgu yn y “steil hen ffasiwn”, pethau fel Michel Thomas, Pimsleurs, Linguaphone a lawer mwy am ieithoedd eraill. Oeddech trio fod yn gwahanol iddo nhw reit am y ddechrau?

Wnes i erioed meddwl am fod yn ‘wahanol’ fel amcan ynddo’i hun – beth o’n i isio oedd rhywbeth oedd yn ffocysu ar y gwaith oedd wirioneddol ei angen, a gadael allan yr holl stwff sydd ddim yn helpu mewn gwirionedd. Dwi’n meddwl bod cryfderau i bob cwrs iaith dwi wedi defnyddio – gan gynnwys Linguaphone, a Pimsleurs, a Michel Thomas – ond dwi’n meddwl bod gwendidau ynddyn nhw hefyd, a bod modd i’r broses fod yn fwy effeithiol. Mewn ffordd, trio symleiddio pethau oeddwn i wrth gychwyn.

Felly, bydd blwyddyn nesa eich 10fed penblwydd. Ydy fe teimlo yn rhyfedd i gweld y rhaglen yn parhau? Pan oeddech ddechrau allan, wnaethoch feddwl fydd SSIW yn dal parhau a ddal helpu pobl 10 mlynedd wedyn?

aran2_origWnes i ddim meddwl rhyw lawer am hynny, dweud y gwir. Megis cychwyn ydan ni yn dal i fod, neu felly mae’n teimlo – mae cymaint yn fwy o bethau dan ni isio cyflawni!

Yn ogystal cynnig cwrsiau yn y Gymraeg, chi wedi bod yn cynnig cwrsiau trwy’r ieithoedd eraill ers amser maith. Dw i’n gwybod bod ti ddim yn ysgrifennu bob cwrs, a weithiau byddet ti’n llogi pobl i sgwennu cwrsiau. Felly, beth dw i eisiau gwybod ydy… wyt ti byth wedi dysgu iaith arall trwy SaySomethingIn?

Wel, roedd rhaid i mi sgwennu pob cwrs pan wnaethon ni ddechrau trio gwneud ieithoedd eraill – a doedd hynny ddim yn gweithio’n dda iawn, felly dyna pam wnaethon ni ddechrau gweithio ar algorithm i’w wneud hi’n bosib i bobl eraill sgwennu efo’r un methodoleg.

Dim ond y Fanaweg sydd wedi cyhoeddi heb unrhyw waith gen i – dan ni’n gobeithio lawnsio 5 i 6 iaith newydd blwyddyn nesaf – ac ia, dwi wedi gwneud y gwersi Manaweg sydd ar gael hyd yn hyn, mewn dau ddiwrnod dwys. Wnes i ddiwrnod dwys efo’r Isel-direg hefyd, ond roeddwn i wedi gweld rhyfaint o hynny wrth helpu ffurfio’r cwrs, felly dim ond y Fanaweg dwi wedi gwneud ‘o’r cychwyn’ fel petai. Dwi’n edrych ymlaen at wneud diwrnod dwys arall efo’r Fanaweg pan bydd digon o wersi ar gael – hyd yma, does gen i ddim digon o’r Fanaweg i gynnal sgwrs, ond dwi’n meddwl bydda i’n cyrraedd yn y pen draw.

Dw i’n gwybod bod pawb yn cael profiadau gwahanol, ac wrth cwrs un y pethau gwych am SSIW ydy’r ffeith bod ti’n gallu mynd ar y cyflym ti’n moyn mynd – ond yn dy farn di, beth ydy’r ‘modd perffaith’ i dacl SSIW?

Dan ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith hyfforddi dwys ar y fodel ‘2 ddiwrnod yr wythnos am 5 wythnos’ – dwi’n meddwl bod hynny’n agos at fod yn rhyw fath o ‘sweet spot’ – ond dwi hefyd isio arbrofi fy hun efo cyfnod o ddysgu’n ddwys am 10 diwrnod pan bydd digon o wersi ar gael mewn iaith newydd.

Ar ol bron 10 mlynedd, mae gennych cynlluniau enfawr efo’r rhaglen, bydd pethau yn newid am y gwell yn fuan efo SSI. Felly beth gallwch chi ddweud wrth i ni am eich bwriadau a ddatblygiadau yn y dyfodol?

Dan ni wedi darganfod bod llawer iawn mwy o bobl yn gorffen y cwrs pan dan ni’n roi mwy o strwythur iddyn nhw – fel sydd yn digwydd ar y cyrsiau 6 mis a 2 flynedd. Mae’r gwahaniaeth yn syfrdanol – efallai 5% yn gorffen heb arweiniad, ond mwy fel 80% efo arweiniad – felly dan ni’n teimlo bod cyfrifoldeb arnom ni i sicrhau bod mwy o bobl yn cael arweiniad.

Ac mae’r canlyniadau – gan y rhai sydd yn gweithio’n galed ac yn cyflawni’r holl becynau gwaith – yn syfrdanol. Ges i sgwrs yn ddiweddar efo rhywun oedd newydd orffen y cwrs 6 mis – prin o’n i fy hun yn gallu credu mai dim ond am 6 mis oedd o wedi bod yn dysgu.

Felly, erbyn hyn mae rhywun newydd yn cael cyfle i ddysgu un frawddeg efo ni, mewn gwersi bach 5 munud neu 10 munud – os ydi hynny’n gweithio iddyn nhw, maen nhw’n cael cyfle i wneud mis am £1 ar un o’n cyrsiau strwythuredig – wedyn, maen nhw’n talu’n fisol ar gyfer pa bynnag cwrs maen nhw wedi dewis. Dan ni’n hyderus bydd hyn yn helpu creu llawer mwy o siaradwyr hyderus na beth dan ni wedi llwyddo i’w wneud yn y gorffennol.

Dan ni hefyd ar fin lawnsio cynnwys newydd ar gyfer ein dysgwyr profiadol – i helpu nhw i gyrraedd y pwynt lle mae defnyddio’r iaith yn teimlo’n hawdd ac yn naturiol – yn cychwyn efo sgyrsiau 30 munud bob wythnos, efo trawsgrif a chyfieithiad. Dwi’n disgwyl bydd hyn yn gam anferth ymlaen – byddwn i wedi bod wrth fy modd cael y math yma o gynnwys pan o’n i’n dysgu.

Mae llwyodraeth Cymru wedi ddweud bod nhw eisiau cyrraed at eu targed miliwn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Sut gall SSIW chwarae rol pwysig yn helpu’r cenedl cyrraed at y nifer hwn?

Dan ni isio trio ymledu’r cysyniad bod y lle gorau i gychwyn ydi trwy ddysgu un frawddeg – os gawn ni filiwn o bobl yn medru un frawddeg, wedyn gawn ni fwrw ati i wella ac estyn eu Cymraeg.

Dan ni hefyd yn credu bod angen adeiladu mwy o gyfleon i bobl ddefnyddio eu Cymraeg lle bynnag yn y byd maen nhw – fel, er enghraifft, efo’r gymuned ymarfer WelshSpeakingPractice.slack.com rwyt ti wedi gwneud cymaint i helpu efo hi a’i hyrwyddo.

Mae’n debyg bod ti wedi ysbrydoli a helpu miloedd a filoedd o bobl dysgu’r iaith, dim jyst yng Nghymru yn unig, ond reit dros y byd i gyd. Sut ydy hynny yn teimlo? Wyt ti byth cael y cyfle i edrych at y ffigarau. Rhaid i chi teimlo balch o beth dych chi wedi gwneud efo SSIW?

Mae’n teimlo’n eithaf haniaethol, i ddweud y gwir. Dwi ddim yn meddwl amdani yn aml. Mae’n braf iawn gweld pobl o wledydd eraill yn siarad y Gymraeg, a dwi wrth fy modd efo’r holl ffrindiau newydd dan ni wedi dod i’w nabod mewn gwledydd eraill – ac yng Nghymru fach ei hun, wrth gwrs. Ond mae cymaint, cymaint eto i’w wneud i ni sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r Gymraeg, a dwi’n tueddu i dreulio fy amser i yn meddwl am beth sydd angen gwneud nesaf.

arannews
O’r diwedd ‘te. Dychmygwch os ti’n medru? Os fydd rhywun yn darllen yr erthgwl hon ac mae’n nhw’n meddwl o ddifri am dysgu’r iaith. Beth fydde ti’n ddweud iddo nhw er mwyn helpu nhw gwneud y ddewis i ddechrau?

Beth am gychwyn efo un frawddeg? Mae’n bosib bydd yn agor byd newydd syfrdanol o hyfryd i ti..

 

Aran Jones ydy un o’r perchnogion SaySomethingin.com. Ti’n gallu dilyn e ar Twitter hefyd.

Cyfweliad: Lara Roberts – Dillad Tost

Mae Tost yn cwmni dillad ‘amgen’ newydd sbon sy’n dod o Aberystwyth, Ceredigion. Mae’n nhw’n gwneud amrywiaeth o ddyluniadau ddiddorol dros amrywiaeth o gynhyrchion fawrach. Crysiau-T, hwdis, bathodynau – enwi fe, mae’n nhw’n gwneud e yn barod.

Wnaethom ni eistedd lawr gyda sylfaenydd Lara Roberts am sgwrs bach cloi am y gwmni, ei gwaith ac ei brofiad gyda’r iaith Gymraeg.

DSC_0262

 

 

Gallwch chi ddweud wrth i ni beth yn union Tost ydy?

Yn syml, dechreuodd Tost fel cwmni crys-T, ond mae wedi tyfu yn cyflym i fewn cwmni dillad ac ein targed ydy creu nwyddau unigryw sydd wedi cael ei ysbrydoli gan didiwylliant amgen, celf y stryd, cerddoriaeth ac yr iaith Cymraeg.

 

merchtostPam gwnes ti ddechrau Tost? Beth oedd y prif-rheswm?

Wel, dw i wedi wrth fy modd gyda ffasiwn amgen a diwylliant ers oeddwn i yn fy harddegau. Fy ddewisidau oedd cael ei ysbrydoliaeth gan y cerddoriaeth oeddwn i’n gwrando arno – llawer o cerddoriaeth punk, gyda llwer o skateboarding, lliwio fy ngwallt a chwarae’r gitar. Ffeindias i bod twll enfawr yn y farchnad am dillad iaith Cymraeg gyda ‘edge’ amgen, felly pendyfernais i trio llenwi’r twll!

 

Mae yna llawer o cwmniau sydd yn gwneud pethau fel hyn, ond ti ydy’r unig cwmni fy mod i’n nabod sydd yn gwneud e yn y Gymraeg. Pa mor bwysig ydy’r iaith i ti?

Yr iaith yn bwysig iawn i fi. Ges i fy geni yn Abertawe, Fi ydy Cymraeg a balch iawn i fod yn Cymraes. Dw i’n gobeithio bydd y dyluniadau fy mod i’n creu ar gyfer Tost yn cyrraedd yn bellach na ni sydd yn gallu siarad yr iaith yn unig, ac efallai ysbrydoli pobl eraill i ddysgu, neu codi’r ymwybyddiaeth y iaith hyd yn oed.

 

Beth ydy dy stori di gyda’r iaith?

Wel, pendyfernais i ddechrau dysgu Cymraeg ar diwedd 2016 achos i fi teimlo fel menyw Cymraeg dylwn i gallu siarad yr iaith o fy ngwlad! Gwnes i ddefnyddio SaySomethinginWelsh, gwnes i wylio llawer o “Pobol y Cwm” a gwrandais i llawer o cerddoriaeth iaith Cymraeg ar y ddechrau o fy siwrnie dysgu’r iaith. Dw i dal yn ddysgu a credu wna i fod dysgwr am byth, ond dw i’n gallu byw fy mywyd a gweithio trwy’r iaith, ac wrth cwrs cael sgwrs gyda fy ffrindiau sydd yn siarad Cymraeg dros ychydig o cwrw!

 

mockup-430fff02Hefyd, ti’n gweithio ar gyfer cwmni enwog yn y fyd Cymraeg – Siop y Pethe. Ydy hyn wedi help ti o gwbl pan oedde ti’n sefydlu’r cwmni?

Siop wedi bod anhygoel, mae’n nhw wedi bod yn cefnogol iawn o’r syniad ac eisiau cael fy dyluniadau yn stoc mor fuan a phosib. Hoffwn i gweithio gyda nhw i creu rhyw fath o “one-off” am eu casgliad nhw.

 

 

Cerddoriaeth a chelf wedi bod ysbrydoliaeth enfawr i ti. Pa fath o bethau wyt ti’n hoffi ar hyn o bryd?

Mae’n amrywio i fod yn onest, dw i wastad mynd yn ol i wrando ar fandiau punk, fel arfer o America! Ar hyn o bryd dw i’n gwrando ar “The Wonder Years” llawer, ond gallwn i fod yn gwrando ar “Manic Street Preachers” un diwrnod a “Good Riddance” y nesaf. Ie, mae gyda fi degree yn celf felly mae celf yn ysbrydoliaeth bwysig iawn i fi. Yn union fel cerddoriaeth, mae fy hoff artistiaid yn newid. Er hynny, dw i wastad wedi bod yn gefnogwr enfawr o gelf stryd, yn enwedig “ROA” arlunydd stryd Gwlad Belg. Gwelais i lawer o ei waith ar strydoedd Brwsel pan oeddwn ni’n allan yng Ngwlad Belg ym 2016, ac oedd hyn yn cwl iawn.

 

Pa fath o adborth ges ti hyd yn hyn?

Mae’d adborth wedi bod yn positif iawn. Gaethom ni ddiddordeb o reit dros y byd i gyd, sydd yn wych achos mae’n golygu yr iaith yn mynd bell!

 

Beth ydy dy cynlluniau am y dyfodol gyda Tost? Wyt ti’n bwriadu gwneud unrhywbeth cyffrous?

Hoffwn i gwneud popeth fy hun yn y pen draw. Ar hyn o bryd er mwyn cadw costiau i lawr dw i’n defnyddio cwmni argraffu allanol i argraffu ac anfonn archebion. Ond dw i eisiau cael rhyw fath o “one woman band” lle dw i’n gallu rheoli bob un rhan o’r gwasanaeth! Targedau eraill? I gael rhyw rath o presonoldeb yn yr Eisteddfod bydd yn anhygoel!

 

O’r diwedd. Sut gall pobl ffeindio mwy allan am Tost?

Mae’n hawdd iawn, dych chi’n gallu fynd i www.dilladtost.com a mynd oddi yno. Mae gyda ni hwdis, crysiau-t a fagiau. Mwy o nwyddau bydd ar gael yn fuan! Dych chi’n gallu dilyn ni ar Facebook, Twitter ac Instagram wrth defnyddio @dilladtost

Adolygiad: Byrgyr, Aberystwyth

IMG_4316Pan ffeindais i mas bydd bwyty “byrgyr” yn agor yn Aberystwyth, ges i eiliad gyffro, felly aros am 2 mis i’r lle i agor wedi bod yn rhywstredig iawn.. ond Nos Fawrth diwethaf, ges i’r cyfle gyntaf i ffeindio allan beth “all the fuss was about”.

Mae nhw wedi galw adre yn yr adeilad Cambria, ar bwys y Pier yn Aberystwyth. Dw i wedi clywed llawer o bethau dda iawn dros y We, dros y penwythnos – achos wnaethom nhw agor yn swyddogol 3 diwrnodau yn ol.

IMG_4319

Y peth cyntaf byddech syweddoli, enwedig pobl sydd gyda ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg, ydy pa mor “prominent” ydy’r iaith yn bopeth Byrgyr yn gwneud sydd yn galonogol iawn. Mae’r staff yn siarad hi, mae’r perchnogion yn siarad hi – ac yn bwysicach, mae nhw wedi llogi staff fel dysgwyr yr iaith Gymraeg, helpu dyfu nifer siaradwyr Cymraeg yn yr ardal Sir Ceredigion, sydd yn bwysig iawn.

IMG_4318Y lle? Mae’n agored, steiliog a fodern, digon o nodweddion coed ym mhobman sydd yn rhoi teimlad cyfforddus i’r lle. Rhywsut, mae’n teimlo fel y math o lle byddech hapus i mynd am cinio “posh” ar yr un pryd byddech teimlo cyfforddus galw mewn am “quick lunch break” yn ystod eich gwaith.

Roedd 10 ohonom ni yn fwyta heno, felly oedd “work cut out” gyda nhw yn y cegin i ddweud y gwir. Bob un ohonom ni yn ddewis rhywbeth gwahanol i’r person nesaf, felly oeddem ni’n teimlo ychydig euog am ymestyn eu sgiliau nhw mas mor gynnar!

Fel llysieuwyr (cig-gwrthodwyr i’r ffermwyr sydd yn darllen erthgyl hon 😉 ) fi a fy ngwraig yn wastad cael bach o siom pan dyn ni’n edrych at y bwydlen i ffeindio un “token veggie burger”. Felly oeddwn i’n hapus iawn i ffeindio mwy nag un, mwy na ddau, llawer o ddewisiadau ar gyfer llysieuwyr fel ni. Felly, diolch am hynny!

Ges i’r “Corn Gwlad” – byrgyr llysieuol, byrger gyda ychydig bach o “cic”, llawn gyda salad ffres a bun hyfryd. Roedd y flas yn ardderchog, llawn o flas! Gaeth fy ngwraig y “Aber” byrgyr, sydd yn addas ar gyfer fegans hefyd. Roedd hynny yn flasus hefyd, achos oeddem ni’n rhannu yr ddau! Gaethom ni “Sglodion wedi eu gorchuddio”… gyda caws y ty. Roeddem nhw’n gwych.

IMG_4314Am diodydd, ges i ychydig boteli “Preseli Pils” tra fy ngwraig yn yfed gwin coch y ty. Dyna’r peth gyda Byrgyr, mae’r bois sydd yn rhedeg y lle yn dod o’r ardal lleol – felly mae nhw’n defnyddio adnoddau lleol, cig lleol, diodydd lleol, pethau fel hwnna.

Gawsom ni ein gwasanaethu trwy’r cyfrwng Cymraeg, hyd yn oed y staff yn helpu ni oedd dysgwyr, chwarae teg iddo nhw gyd!

Roedd deg ohonom ni joio’r noson, ac oeddem ni gyd yn hapus iawn gyda beth oedd gyda Byrgyr i cynnig. Hyd yn oed dydy ni ddim yn bwyta cig, dyweddod ein ffrindiau bod eu byrgyrs nhw yn blasus iawn a wnaethom nhw joio yn fawr iawn.

Os dych chi isio mynd i rhywle cyfforddus ond moethus ar yr un pryd, mae’n amhosib i guro Byrgyr yn yr ardal Ceredigion. Bwyd – anhygoel, Croeso – cynnes, Golygfa mas y ffenest? – y mor!

IMG_4315

Ymwelch yn fuan, cyn pawb yn ffeindio mas!

 

Ein gwasanaeth newydd “Adopt a Learner”

Beth yw’r rhaglen “Mabwysiadu Dysgwr” (Adopt a Learner)?

Mae “Mabwysiadu Dysgwr” yn wasanaeth newydd sbon, hollol am ddim a gynigiwn yma yn defnyddiwcheichcymraeg.com, sy’n anelu at barhau â dysgwyr brwd â siaradwyr Cymraeg mwy profiadol er mwyn helpu’r dysgwr i wella eu Cymraeg ac i ddatblygu cyfeillgarwch sy’n gweithredu’n bennaf trwy cyfrwng y Gymraeg.

Y syniad yw dod â phobl debyg i gyd at ei gilydd a rhoi profiad hanfodol dysgwyr i siarad â siaradwyr Cymraeg hyderus a mwy rhugl y tu allan i amgylchedd dosbarth.

Mae lefel y cyswllt sydd gennych gyda’ch partner a fabwysiadwyd yn llwyr i chi, a’ch dewisiadau rydych chi’n eu dewis yn cael eu defnyddio wrth gyfateb â chi gyda phartner. Efallai y bydd rhai pobl eisiau cysylltu â chyswllt e-bost yn unig, efallai y bydd rhai pobl yn hapus i sgwrsio dros Skype, efallai y byddai’n well gan rai pobl sgwrsio dros y ffôn, byddai rhai pobl yn fodlon cwrdd â choffi bob tro. Mae’n lan i chi!

Sut mae’n gweithio?

Felly, y syniad yw y gallwch ddewis cofrestru gyda’r rhaglen fel naill ai “Dysgwr Cymraeg” neu “Siaradwr Cymraeg”.

Os ydych chi’n cofrestru fel “dysgwr Cymraeg” byddwch chi’n cael eich paratoi gyda rhywun ar ein cronfa ddata sy’n fwy profiadol gyda’r iaith, gallai hyn fod yn siaradwr iaith gyntaf, yn siaradwr Cymraeg rhugl sydd wedi dysgu’r iaith ond nad yw’n siarad fel iaith gyntaf neu rywun sy’n dal i ddysgu’r iaith ond mae’n hyderus iawn ac yn debygol o fod ymhellach i lawr y llinell na’ch hun.

Os ydych chi’n cofrestru fel “siaradwr Cymraeg” byddwch yn cael eich pâr gyda dysgwr Cymraeg a allai ddod o unrhyw ran o’r byd.

Gofynnir i chi gyfres o gwestiynau ynghylch pa fath o berson yr hoffech chi gysylltu â hwy, pethau fel diddordebau, hobïau, lleoliad (efallai y byddai’n well gan y rhai sy’n dysgu’r dafodiaith gogleddol gwrdd â chyd-gogleddwr ac ati) a pha ddulliau ydych chi yn hapus i’ch Dysgwr neu’ch Siaradwr gyfathrebu â chi trwy.

Fel Dysgwr, beth ddylwn i ei ddisgwyl gan fy mhartner?

Er y byddwch chi’n cael eich pâr gyda siaradwr Cymraeg mwy profiadol, nid yw eu rôl chi yn eich dysgu chi i siarad Cymraeg, eu rôl fydd cynnig help llaw i chi, cynnig arweiniad i chi a chynnig cyfle i chi sgwrsio ag ymarfer – boed mae hynny dros y ffôn, dros Skype neu yn bersonol.

I gymryd rhan yn y rhaglen, dylech chi ddilyn eich cynllun gweithredu eich hun i ddysgu Cymraeg. Nid yw hwn yn ddisodli am gwrs addysgol a byddai’n annheg disgwyl i rywun eich dysgu yn y modd hwn.

Fel siaradwr Cymraeg, beth ddylwn i ei ddisgwyl gan fy mhartner?

Bydd eich partner yn ddysgwr Cymraeg, ond byddant yn dilyn eu cynllun gweithredu eu hunain ar gyfer dysgu’r iaith, gall hyn fod trwy ddosbarthiadau nos mewn coleg lleol, gan ddefnyddio offer fel Say Something in Welsh a Duolingo neu ddefnyddio dulliau eraill sydd ar gael.

Eich swydd chi yw peidio â dysgu’ch partner sut i siarad Cymraeg, ond yn hytrach i fod yno fel ffynhonnell o ganllawiau ac ymarfer bob tro ac yna. Gallwch gysylltu â’i gilydd trwy e-bost, ffôn, Skype neu hyd yn oed gwrdd â choffi os dymunwch.

Drwy wneud hynny, byddwch chi’n helpu i sicrhau dyfodol y Gymraeg ymhellach a helpu i sicrhau bod yr iaith yn parhau â’i twf diweddar.

Pan fyddai yn cofrestru, beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cofrestru, mae’ch ceisiadau wedi’u cynnwys yn ein system a byddwn yn eich pâr chi gyda rhywun sy’n bodloni’ch gofynion mor agos â phosib. Os ydych chi wedi gofyn y byddai’n well gennych gael eich paru gyda rhywun sy’n hoffi pêl-droed ac yn hapus i sgwrsio’n wythnosol dros Skype, byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch gosod chi gyda rhywun sy’n hoffi pêl-droed ac nid yw’n meddwl Skyping on a yn rheolaidd. Os ydych chi’n dymuno cael eich cydweddu â rhywun sy’n hoffi gwyddbwyll a dim ond eisiau sgwrsio dros e-bost, yna fe gewch chi gydweddu â rhywun sy’n hoffi gwyddbwyll a dim ond eisiau sgwrsio dros e-bost.

Sut mae hyn yn rhad ac am ddim?

Achos mae yn! Roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn syniad eitha dda, ac felly fe wnes i. Mae’n hollol rhad ac am ddim. Yr unig beth y byddwn i’n gofyn amdani yw fy mod yn gobeithio y bydd y broses hon yn eithaf cylchol. E.E Os dych chi’n ymuno fel “dysgwr Cymraeg” a’ch bod yn dod o hyd i’r rhaglen yn ddefnyddiol, byddwn yn mor werthfawrogi os byddwch ystyried bod yn “siaradwr Cymraeg” yn nes ymlaen ar y llinell pan fyddwch chi’n dod yn siaradwr Cymraeg hyderus, fel hyn mae’r rhaglen yn tyfu mewn ffordd fwy “organig” Os yw “dysgwyr” eleni yn siaradwyr “y flwyddyn nesaf” yna bydd y rhaglen yn tyfu ac yn helpu’r iaith Gymraeg i dyfu.

Pa mor rhugl dylwn i fod i gynnig fy ngwasanaethau fel “siaradwr Cymraeg”?

Bydd y bobl sy’n ymuno â’r rhaglen hon fel dysgwyr yn ddysgwyr cymharol newydd a dibrofiad, felly hyd yn oed rydych chi’n dal i ystyried eich hun yn ddysgwr (er bod un eithaf datblygedig), mae croeso i chi ymuno â’r rhaglen fel rhywun sy’n cynnig eu gwasanaethau fel helpwr . Os cewch chi bob dydd trwy gyfrwng y Gymraeg heb unrhyw drafferth, rydych chi’n ymgeisydd perffaith i gyflawni ochr “siaradwr Cymraeg” y fargen!

Beth yw’r rheolau?

Mae’r rheolau’n eithaf syml, dim ond bod yn braf ac ymddwyn. Bydd unrhyw enghreifftiau o’r canlynol yn arwain at ddiswyddo ar unwaith a rhestru’r rhestr ddu o’r rhaglen.

    1. Cynnig gwasanaethau taledig – i.e Mae tiwtor yn ymuno â’r rhaglen ac yna’n cynnig gwasanaethau tiwtora taledig i’w “dysgwr”. Mae’r rhaglen hon yn gwbl ddi-dâl ac mae sianelau eisoes yn cynnig y math hwn o beth, defnyddiwch nhw.
    2. Camdriniaeth o unrhyw fath. Bydd unrhyw adroddiadau am ymddygiad gwael, amserwyr ac ati yn arwain at ddiswyddo ar unwaith

 

Beth os dw i ddim yn hoffi fy mhartner neu os yw fy mhartneriaid yn mynd ar goll / yn colli cysylltiad?

Rhaglen am ddim yw hwn, felly os na fyddwch chi a’ch partner yn mynd ymlaen, neu os byddwch yn colli cysylltiad â nhw – dim ond yn ôl yma, nodwch eich manylion, gwnewch yn siŵr fod popeth yn ôl ac yn ddyddiol a byddwn yn eich paru yn gyflym gyda rhywun!

Eich data

Bydd eich data yn cael ei chadw’n ddiogel ac mewn fformat wedi’i hamgryptio ar ein gweinyddwyr o dan reoliadau cyfredol y GDPR. Dim ond tan y pwynt lle dych chi’n gysylltiedig â phartner y bydd y data hwn yn cael ei storio. Unwaith y bydd y broses hon yn gyflawn bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddileu.

Pan wneir cysylltiad rhwng partneriaid, fe’ch hysbysir am eu cyfeiriad e-bost. Yna bydd eich hun chi i gychwyn cyswllt pellach.

Sut i ymuno…

Ewch at ein tudalen Mabwysiadu Dysgwr er mwyn ffeindio mwy o fanylion.

Sut gall dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg?

NODYN: Mae’r erthygl hon wedi ygrifennu’n wreiddiol ar gyfer Parallel.cymru a wnaethom nhw cynnig yn caredig i rhannu fe. Er mwyn darllen yr erthygl yno, dilynwch y ddolen yma.

Weithiau, fel dysgwyr dyn ni’n gallu meddwl ei fod yn anodd cyfrannu i fyd y Cymry Cymraeg. Yma, mae Neil Rowlands a chyfranwyr i’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn siarad am eu gwaith ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor.

Bydd y chwech ohonom ni- Neil, Dani, Nicky, Patrick, Peter & Sam siarad am hyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:

Dydd Sadwrn 04/08, 15:10 yn Shw’mae Caerdydd (Adeilad Pierhead / Pierhead Building); mynediad am ddim.

Sut-all-dysgwyr-gyfrannu-at-fywyd-Cymry-Cymraeg-1


Dani Schlick
Aelod o gymuned leol ac wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017

Sut all dysgwyr Cymraeg gyfrannu at fywyd Cymraeg? – Ymhob ffordd bosibl fel pobl sydd yn cyfrannu at fywyd pobl a chymunedau.
Beth bynnag sydd yn digwydd yn y Gymraeg mewn unrhyw gyd-destun a dach chi’n rhan o’r digwyddiad – boed yn y gymuned, yn y gwaith neu yn eich amser sbâr – dach chi’n cyfrannu at fywyd Cymraeg.
DanielaEnghraifft wych ydy Siân, un o fy ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg, sydd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Alltwen Porthmadog. Dechreuodd hi ddysgu’r Gymraeg achos bod hi – yn Gymraes – isio siarad hen iaith ei gwlad a thrin cleifion yn eu hiaith nhw. Yn ei gwaith mae hi’n mynd i gartrefi cleifion yr ardal, sef Porthmadog, Beddgelert a Blaenau Ffestiniog – ardal Gymraeg iawn. Er mwyn i’r cleifion deimlo’n fwy cyfforddus mae hi’n bwysig iawn siarad eu hiaith gyntaf efo nhw. Mae cleifion Siân yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ac fel bonws bach mae Siân yn dysgu cymaint am iaith yr ardal ac mae hi bellach yn siarad “iaith y brodorion”.
Rydw innau’n siarad Cymraeg ym mhob cyd-destun posibl – efo cydweithwyr yn y gwaith ac wrth gwrs yn fy amser sbâr. Braint a phleser mawr oedd bod yn rhan o gôr yr Eisteddfod yn Ynys Môn 2017 – côr Cymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd yna rai pobl yn y côr oedd yn fy nabod i, ond ddudes i ddim gair wrth neb arall mai dysgwraig Gymraeg ydw i – siarad Cymraeg efo pawb wnes i o’r cychwyn cyntaf. Ella bod aelodau’r côr wedi amau nid siaradwraig iaith gyntaf ydw i.
Felly am syndod iddyn nhw pan gyrhaeddais rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 – braint a phleser arall, gyda llaw. Agoriad llygaid oedd sylweddoli pa mor bwysig ydy cynnwys dysgwyr yn nigwyddiadau Cymraeg a siarad yr iaith efo dysgwyr. Felly, mewn ffordd cyfrannodd hyn at y ffordd maen nhw’n gweld dysgwyr Cymraeg rŵan.
Gadewch i mi roi ychydig o gyngor i chi: Peidiwch â sôn mai dysgwr ydach chi – beth bynnag ydy eich lefel. Smaliwch! Bydd pobl yn sylwi wrth i chi siarad. Ond trwy beidio â dweud y gair “dysgwr” bydd y sgwrs yn fwy naturiol o’r dechrau. Ac unwaith dach chi wedi dechrau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi!


Neil Rowlands
Sylfaenedd, parallel.cymru

Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyon, heriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a’i sefydliadau.

Neil-with-laptop-265
Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda’r term dysgwr.
Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o’r cyfweliadau hynny, derbyniais i’r cwestiwn “Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?”, ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr! Beth bynnag, roedd y broses o sgwennu’r cais yn y Gymraeg a hala amser yn paratoi am y cyfweliad wedi rhoi oriau o amser cyswllt i mi, ac roedd y teimlad fy mod wedi sefyll ar fy nhraed fy hun i gyflwyno cais uchelgeisiol mewn iaith roeddwn i yn dal i’w dysgu wedi rhoi hwb anferth i fi.
Yn hydref 2017 sylweddolais i fy mod i mewn sefyllfa ‘catch-22’ – roeddwn i’n moyn integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, ond doedd dim cyfleoedd i wneud hynny yn fy swydd. Roedd fy niffyg profiad o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy rhoi i dan anfantais wrth gymharu gydag ymgeiswyr eraill, beth bynnag oedd safon fy Nghymraeg.
Sylweddolais fod gen i benwythnosau a nosweithiau i’w defnyddio, a doedd dim angen ffeindio swydd neu gyllid i wneud rhywbeth – gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i’n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro’n i’n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny.
Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllid a gweledigaeth y llywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae’n bwysig i’r gymuned arloesi a thrio pethau newydd.
Mae’r prosiect delfrydol yn cyfuno rhywbeth rydych yn gwybod sut i’w wneud gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn yn gwybod sut i greu a hyrwyddo gwefannau, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud i’r Gymraeg fod yn iaith hygyrch.
Tu ôl y llen, dw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth; mae rhai pobl wedi rhoi o’u hamser i wella safon y cynnwys ar parallel.cymru, e.e. Elgan Davies-Jones, David Sutton a Patrick Jemmer (nodyn- os oes unrhyw wallau iaith ar parallel.cymru, fi sy’n gyfrifol, nid nhw). Hefyd, mae’n rhyfeddol gweld pobl fel Dani, Huw Rowlands, Nicky a Peter yn defnyddio eu amser yn hael i rannu eu sgiliau a’u profiad trwy beth maen nhw’n wneud.
Mae’r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau – os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o’r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?


Nicky Roberts
Sylfaenydd useyourwelsh.com & youtube.com/learnwelshwithnicky; wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2018

Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd.
Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â ‘mheintiau yn ôl i’m sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.
Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990.
DSC_0089_2Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda ‘nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny – ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith.
Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i’r rhaglen ‘Say Something in Welsh’. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 350 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd.
Mae’r peth pwysicach dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd http://www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog.
Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i’m llwyddiant dysgu’r iaith – doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre’n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o’i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd!
Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith.


Patrick Jemmer
Cyfieithydd Ask Dr Gramadeg, tiwtor a cyfrannwr rheolaidd i parallel.cymru

Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg yn Nhŷ Tawe yng nghanol Dinas Abertawe, pan ddes i adref o Newcastle lle ro’n i wedi bod yn gweithio, ac rwy wedi bod wrthi ers chwe blynedd erbyn hyn. Rwy’n dwlu ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymreig, ac rwy wastad yn ceisio ymarfer, rhannu syniadau a’m cariad at yr iaith, a dysgu mwy. Ro’n i’n lwcus iawn pan enillais i Dlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 gyda darn o’r enw ‘Pontydd’.
Dros y cyfnod 2012 – 2014 ro’n i’n astudio hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ‘Tystysgrif Addysg Uwch’ mewn Ysgrifennu Creadigol a Seicotherapi (yn Saesneg), gan gynnwys llawer o ymarferion wedi’u seilio ar ‘Ysgrifennu’r Hunan’, a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2014. Felly roedd llawer o syniadau ‘da fi am bynciau ac awgrymiadau creadigol pan ddechreuais i greu cynnwys ar gyfer Parallel.cymru.
Er bod y gwaith Saesneg eisoes wedi cael ei gywiro gan diwtoriaid (diolch yn fawr iawn i Mr Andrew Hubbard a Dr Catriona Ryan am eu cymorth a’u hadborth i gyd), dwi ddim yn cyfieithu fy ngeiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg, fodd bynnag. Erbyn hyn, rwy’n ‘sgrifennu’n syth yn Gymraeg. Profiad mor wych yw meddwl a chyfathrebu yn y Gymraeg. A dweud y gwir yn aml mae’n well ‘da fi sut mae fy ‘llais creadigol’ yn swnio yn y Gymraeg. Rwy’n dwlu ar yr iaith! Nawr rwy’n arbrofi gyda darnau ffeithiol, rhai hunanfynegol, tipyn bach o hiwmor (gweler Ffred Phantastiga’i gastiau — ha ha ha!), a hyd yn oed ychydig ffuglen wyddonol.
Wedyn sefais i’r arholiad Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Ail Iaith fis Mehefin 2017, ac enillais i ‘ragoriaeth.’ Bellach rwy’n ‘neud llawer iawn o waith aruthrol ddymunol i’r wefan Parallel.Cymru, fel awdur, a chan helpu gyda golygu a chyfieithu. Cwrddais i â Neil, reolwr y prosiect yn ystod y dosbarthiadau Cymraeg. Wrth gwrs mae’r proses i gyd yn golygu dysgu drwy’r amser, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau derbyn adborth a chyweiriadau, gan nad ydw i’n arbenigwr, a chan fod pob sylwad adeiladol yn helpu fi i ddysgu a gwella, a dyna f’agwedd at ddysgu a defnyddio iaith. Wedi dweud hynny, rwy’n gallu mynd i’r dafarn a chwrdd â phobl newydd gan sgwrsio yn y Gymraeg heb unrhyw broblemau o gwbl! A heb os, mae’r ysgrifennu a phrawf-ddarllen ac yn y blaen wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.
Rwy’n hunangyflogedig ar hyn o bryd. Y peth sy’n f’ymysgogi’n gryfa’ yw chwilfrydedd enfawr, ac awydd archwilio pethau newydd, gan ddatblygu a mynegi gallu creadigol. Rwy’n dwlu ar ehangu fy neall a’m dirnadaeth ac ar helpu pobl eraill i ‘neud yr un peth ac i fynd â’r maen i’r wal mewn beth bynnag maen nhw eisiau ei ‘neud.
Rwy’n dysgu gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg i bobl sy’n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hyd yn oed i rai sy’n fyfyrwyr mewn prifysgolion. Rwy wedi bod yn gweithio gyda sawl myfyriwr sy’n mynd i ysgolion cyfun. Rwy’n gweithio wyneb yn wyneb, gyda grwpiau, a thros y rhyngrwyd. Rwy eisiau defnyddio’r iaith Gymraeg yn fwyfwy gyda myfyrwyr, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy weithio fel tiwtor iaith Gymraeg i bobl ifanc ac oedolion hefyd.
Felly, dych chi’n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud ‘shw mae’ yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu’ch profiadau neu’ch syniadau ar Parallel.cymru. Mae pobl yma i’ch helpu chi, felly peidiwch bod yn ofnus. Fel ro’n i’n ddweud, er mod i’n dwlu ar ramadeg, rwy wastad yn dysgu rhywbeth newydd, ac rwy’n dweud diolch o’r galon i bawb sy’n helpu fi. Y peth mwya’ pwysig yw ein bod ni’n gyfeillgar iawn, yn danbaid dros yr iaith, yn gweithio fel tîm, gan annog ein gilydd wrth hybu’r iaith. Pam na fyddwch roi cynnig arni gan ymuno â ni ar ein taith darganfod i’r iaith a diwylliant Cymraeg? Mae’n anhygoel o werth chweil, a llawn hwyl hefyd!


Peter Mescall
Ysgrifennwr Newyddion i Ddysgwyr Newydd a threfnwr cyrisau i ddysgwyr

Tua dwy flynedd yn ôl, o’n i chwilio am rywbeth i wneud. O’n i wedi siarad efo athro arall yn yr ysgol. Gaeth o ei fagu yn y Gogledd ond yn wreiddiol gaeth o ei eni yn Lerpwl. “Siarad Cymraeg?” meddai. Do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Ac wedyn, o’n i’n meddwl: “Pa mor gywilydd- fedra i ddim yn ymateb yn y Gymraeg”.
Felly, mi wnes i benderfynu dysgu’r iaith; yn gyntaf efo Say Something in Welsh. Mae’r cwrs yn wych ond ar y pryd o’n i isio rhywbeth arall. O’n i isio dysgu mwy felly wnes i drio trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr.
Wedyn, o’n i’n darllen parallel.cymru. Mi wnes i sylweddoli bod dysgwyr angen pethau er mwyn helpu nhw dysgu geirfa newydd. Wnes i anfon neges at Neil….”Liciwn I drio sgwennu’r newyddion yn y Gymraeg- cyfle i ymarfer darllen a hefyd dysgu geiriau newydd”
A dyna ni. Dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i mor falch oherwydd bod pawb yn medru cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg dros y penwythnos. Hefyd y newyddion- dw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau cyfrannu’r newyddion.
Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo eich bod chi’n cael y cyfle i wella hefyd.


Sam Brown
Ieithydd a Swyddog Marchnata Digidol i Wasg Gomer

Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i’n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i’n gwybod mod am ddysgu mwy o’r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i’n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu’r iaith.
Ers wedyn mae’r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i’m bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol.
Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru.
Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cwarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio.
Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd.
Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!