Adolygiad: Byrgyr, Aberystwyth

IMG_4316Pan ffeindais i mas bydd bwyty “byrgyr” yn agor yn Aberystwyth, ges i eiliad gyffro, felly aros am 2 mis i’r lle i agor wedi bod yn rhywstredig iawn.. ond Nos Fawrth diwethaf, ges i’r cyfle gyntaf i ffeindio allan beth “all the fuss was about”.

Mae nhw wedi galw adre yn yr adeilad Cambria, ar bwys y Pier yn Aberystwyth. Dw i wedi clywed llawer o bethau dda iawn dros y We, dros y penwythnos – achos wnaethom nhw agor yn swyddogol 3 diwrnodau yn ol.

IMG_4319

Y peth cyntaf byddech syweddoli, enwedig pobl sydd gyda ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg, ydy pa mor “prominent” ydy’r iaith yn bopeth Byrgyr yn gwneud sydd yn galonogol iawn. Mae’r staff yn siarad hi, mae’r perchnogion yn siarad hi – ac yn bwysicach, mae nhw wedi llogi staff fel dysgwyr yr iaith Gymraeg, helpu dyfu nifer siaradwyr Cymraeg yn yr ardal Sir Ceredigion, sydd yn bwysig iawn.

IMG_4318Y lle? Mae’n agored, steiliog a fodern, digon o nodweddion coed ym mhobman sydd yn rhoi teimlad cyfforddus i’r lle. Rhywsut, mae’n teimlo fel y math o lle byddech hapus i mynd am cinio “posh” ar yr un pryd byddech teimlo cyfforddus galw mewn am “quick lunch break” yn ystod eich gwaith.

Roedd 10 ohonom ni yn fwyta heno, felly oedd “work cut out” gyda nhw yn y cegin i ddweud y gwir. Bob un ohonom ni yn ddewis rhywbeth gwahanol i’r person nesaf, felly oeddem ni’n teimlo ychydig euog am ymestyn eu sgiliau nhw mas mor gynnar!

Fel llysieuwyr (cig-gwrthodwyr i’r ffermwyr sydd yn darllen erthgyl hon 😉 ) fi a fy ngwraig yn wastad cael bach o siom pan dyn ni’n edrych at y bwydlen i ffeindio un “token veggie burger”. Felly oeddwn i’n hapus iawn i ffeindio mwy nag un, mwy na ddau, llawer o ddewisiadau ar gyfer llysieuwyr fel ni. Felly, diolch am hynny!

Ges i’r “Corn Gwlad” – byrgyr llysieuol, byrger gyda ychydig bach o “cic”, llawn gyda salad ffres a bun hyfryd. Roedd y flas yn ardderchog, llawn o flas! Gaeth fy ngwraig y “Aber” byrgyr, sydd yn addas ar gyfer fegans hefyd. Roedd hynny yn flasus hefyd, achos oeddem ni’n rhannu yr ddau! Gaethom ni “Sglodion wedi eu gorchuddio”… gyda caws y ty. Roeddem nhw’n gwych.

IMG_4314Am diodydd, ges i ychydig boteli “Preseli Pils” tra fy ngwraig yn yfed gwin coch y ty. Dyna’r peth gyda Byrgyr, mae’r bois sydd yn rhedeg y lle yn dod o’r ardal lleol – felly mae nhw’n defnyddio adnoddau lleol, cig lleol, diodydd lleol, pethau fel hwnna.

Gawsom ni ein gwasanaethu trwy’r cyfrwng Cymraeg, hyd yn oed y staff yn helpu ni oedd dysgwyr, chwarae teg iddo nhw gyd!

Roedd deg ohonom ni joio’r noson, ac oeddem ni gyd yn hapus iawn gyda beth oedd gyda Byrgyr i cynnig. Hyd yn oed dydy ni ddim yn bwyta cig, dyweddod ein ffrindiau bod eu byrgyrs nhw yn blasus iawn a wnaethom nhw joio yn fawr iawn.

Os dych chi isio mynd i rhywle cyfforddus ond moethus ar yr un pryd, mae’n amhosib i guro Byrgyr yn yr ardal Ceredigion. Bwyd – anhygoel, Croeso – cynnes, Golygfa mas y ffenest? – y mor!

IMG_4315

Ymwelch yn fuan, cyn pawb yn ffeindio mas!

 

Advertisements

Ein gwasanaeth newydd “Adopt a Learner”

Beth yw’r rhaglen “Mabwysiadu Dysgwr” (Adopt a Learner)?

Mae “Mabwysiadu Dysgwr” yn wasanaeth newydd sbon, hollol am ddim a gynigiwn yma yn defnyddiwcheichcymraeg.com, sy’n anelu at barhau â dysgwyr brwd â siaradwyr Cymraeg mwy profiadol er mwyn helpu’r dysgwr i wella eu Cymraeg ac i ddatblygu cyfeillgarwch sy’n gweithredu’n bennaf trwy cyfrwng y Gymraeg.

Y syniad yw dod â phobl debyg i gyd at ei gilydd a rhoi profiad hanfodol dysgwyr i siarad â siaradwyr Cymraeg hyderus a mwy rhugl y tu allan i amgylchedd dosbarth.

Mae lefel y cyswllt sydd gennych gyda’ch partner a fabwysiadwyd yn llwyr i chi, a’ch dewisiadau rydych chi’n eu dewis yn cael eu defnyddio wrth gyfateb â chi gyda phartner. Efallai y bydd rhai pobl eisiau cysylltu â chyswllt e-bost yn unig, efallai y bydd rhai pobl yn hapus i sgwrsio dros Skype, efallai y byddai’n well gan rai pobl sgwrsio dros y ffôn, byddai rhai pobl yn fodlon cwrdd â choffi bob tro. Mae’n lan i chi!

Sut mae’n gweithio?

Felly, y syniad yw y gallwch ddewis cofrestru gyda’r rhaglen fel naill ai “Dysgwr Cymraeg” neu “Siaradwr Cymraeg”.

Os ydych chi’n cofrestru fel “dysgwr Cymraeg” byddwch chi’n cael eich paratoi gyda rhywun ar ein cronfa ddata sy’n fwy profiadol gyda’r iaith, gallai hyn fod yn siaradwr iaith gyntaf, yn siaradwr Cymraeg rhugl sydd wedi dysgu’r iaith ond nad yw’n siarad fel iaith gyntaf neu rywun sy’n dal i ddysgu’r iaith ond mae’n hyderus iawn ac yn debygol o fod ymhellach i lawr y llinell na’ch hun.

Os ydych chi’n cofrestru fel “siaradwr Cymraeg” byddwch yn cael eich pâr gyda dysgwr Cymraeg a allai ddod o unrhyw ran o’r byd.

Gofynnir i chi gyfres o gwestiynau ynghylch pa fath o berson yr hoffech chi gysylltu â hwy, pethau fel diddordebau, hobïau, lleoliad (efallai y byddai’n well gan y rhai sy’n dysgu’r dafodiaith gogleddol gwrdd â chyd-gogleddwr ac ati) a pha ddulliau ydych chi yn hapus i’ch Dysgwr neu’ch Siaradwr gyfathrebu â chi trwy.

Fel Dysgwr, beth ddylwn i ei ddisgwyl gan fy mhartner?

Er y byddwch chi’n cael eich pâr gyda siaradwr Cymraeg mwy profiadol, nid yw eu rôl chi yn eich dysgu chi i siarad Cymraeg, eu rôl fydd cynnig help llaw i chi, cynnig arweiniad i chi a chynnig cyfle i chi sgwrsio ag ymarfer – boed mae hynny dros y ffôn, dros Skype neu yn bersonol.

I gymryd rhan yn y rhaglen, dylech chi ddilyn eich cynllun gweithredu eich hun i ddysgu Cymraeg. Nid yw hwn yn ddisodli am gwrs addysgol a byddai’n annheg disgwyl i rywun eich dysgu yn y modd hwn.

Fel siaradwr Cymraeg, beth ddylwn i ei ddisgwyl gan fy mhartner?

Bydd eich partner yn ddysgwr Cymraeg, ond byddant yn dilyn eu cynllun gweithredu eu hunain ar gyfer dysgu’r iaith, gall hyn fod trwy ddosbarthiadau nos mewn coleg lleol, gan ddefnyddio offer fel Say Something in Welsh a Duolingo neu ddefnyddio dulliau eraill sydd ar gael.

Eich swydd chi yw peidio â dysgu’ch partner sut i siarad Cymraeg, ond yn hytrach i fod yno fel ffynhonnell o ganllawiau ac ymarfer bob tro ac yna. Gallwch gysylltu â’i gilydd trwy e-bost, ffôn, Skype neu hyd yn oed gwrdd â choffi os dymunwch.

Drwy wneud hynny, byddwch chi’n helpu i sicrhau dyfodol y Gymraeg ymhellach a helpu i sicrhau bod yr iaith yn parhau â’i twf diweddar.

Pan fyddai yn cofrestru, beth sy’n digwydd nesaf?

Pan fyddwch yn cofrestru, mae’ch ceisiadau wedi’u cynnwys yn ein system a byddwn yn eich pâr chi gyda rhywun sy’n bodloni’ch gofynion mor agos â phosib. Os ydych chi wedi gofyn y byddai’n well gennych gael eich paru gyda rhywun sy’n hoffi pêl-droed ac yn hapus i sgwrsio’n wythnosol dros Skype, byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch gosod chi gyda rhywun sy’n hoffi pêl-droed ac nid yw’n meddwl Skyping on a yn rheolaidd. Os ydych chi’n dymuno cael eich cydweddu â rhywun sy’n hoffi gwyddbwyll a dim ond eisiau sgwrsio dros e-bost, yna fe gewch chi gydweddu â rhywun sy’n hoffi gwyddbwyll a dim ond eisiau sgwrsio dros e-bost.

Sut mae hyn yn rhad ac am ddim?

Achos mae yn! Roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn syniad eitha dda, ac felly fe wnes i. Mae’n hollol rhad ac am ddim. Yr unig beth y byddwn i’n gofyn amdani yw fy mod yn gobeithio y bydd y broses hon yn eithaf cylchol. E.E Os dych chi’n ymuno fel “dysgwr Cymraeg” a’ch bod yn dod o hyd i’r rhaglen yn ddefnyddiol, byddwn yn mor werthfawrogi os byddwch ystyried bod yn “siaradwr Cymraeg” yn nes ymlaen ar y llinell pan fyddwch chi’n dod yn siaradwr Cymraeg hyderus, fel hyn mae’r rhaglen yn tyfu mewn ffordd fwy “organig” Os yw “dysgwyr” eleni yn siaradwyr “y flwyddyn nesaf” yna bydd y rhaglen yn tyfu ac yn helpu’r iaith Gymraeg i dyfu.

Pa mor rhugl dylwn i fod i gynnig fy ngwasanaethau fel “siaradwr Cymraeg”?

Bydd y bobl sy’n ymuno â’r rhaglen hon fel dysgwyr yn ddysgwyr cymharol newydd a dibrofiad, felly hyd yn oed rydych chi’n dal i ystyried eich hun yn ddysgwr (er bod un eithaf datblygedig), mae croeso i chi ymuno â’r rhaglen fel rhywun sy’n cynnig eu gwasanaethau fel helpwr . Os cewch chi bob dydd trwy gyfrwng y Gymraeg heb unrhyw drafferth, rydych chi’n ymgeisydd perffaith i gyflawni ochr “siaradwr Cymraeg” y fargen!

Beth yw’r rheolau?

Mae’r rheolau’n eithaf syml, dim ond bod yn braf ac ymddwyn. Bydd unrhyw enghreifftiau o’r canlynol yn arwain at ddiswyddo ar unwaith a rhestru’r rhestr ddu o’r rhaglen.

    1. Cynnig gwasanaethau taledig – i.e Mae tiwtor yn ymuno â’r rhaglen ac yna’n cynnig gwasanaethau tiwtora taledig i’w “dysgwr”. Mae’r rhaglen hon yn gwbl ddi-dâl ac mae sianelau eisoes yn cynnig y math hwn o beth, defnyddiwch nhw.
    2. Camdriniaeth o unrhyw fath. Bydd unrhyw adroddiadau am ymddygiad gwael, amserwyr ac ati yn arwain at ddiswyddo ar unwaith

 

Beth os dw i ddim yn hoffi fy mhartner neu os yw fy mhartneriaid yn mynd ar goll / yn colli cysylltiad?

Rhaglen am ddim yw hwn, felly os na fyddwch chi a’ch partner yn mynd ymlaen, neu os byddwch yn colli cysylltiad â nhw – dim ond yn ôl yma, nodwch eich manylion, gwnewch yn siŵr fod popeth yn ôl ac yn ddyddiol a byddwn yn eich paru yn gyflym gyda rhywun!

Eich data

Bydd eich data yn cael ei chadw’n ddiogel ac mewn fformat wedi’i hamgryptio ar ein gweinyddwyr o dan reoliadau cyfredol y GDPR. Dim ond tan y pwynt lle dych chi’n gysylltiedig â phartner y bydd y data hwn yn cael ei storio. Unwaith y bydd y broses hon yn gyflawn bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddileu.

Pan wneir cysylltiad rhwng partneriaid, fe’ch hysbysir am eu cyfeiriad e-bost. Yna bydd eich hun chi i gychwyn cyswllt pellach.

Sut i ymuno…

Ewch at ein tudalen Mabwysiadu Dysgwr er mwyn ffeindio mwy o fanylion.

Sut gall dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg?

NODYN: Mae’r erthygl hon wedi ygrifennu’n wreiddiol ar gyfer Parallel.cymru a wnaethom nhw cynnig yn caredig i rhannu fe. Er mwyn darllen yr erthygl yno, dilynwch y ddolen yma.

Weithiau, fel dysgwyr dyn ni’n gallu meddwl ei fod yn anodd cyfrannu i fyd y Cymry Cymraeg. Yma, mae Neil Rowlands a chyfranwyr i’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn siarad am eu gwaith ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor.

Bydd y chwech ohonom ni- Neil, Dani, Nicky, Patrick, Peter & Sam siarad am hyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni:

Dydd Sadwrn 04/08, 15:10 yn Shw’mae Caerdydd (Adeilad Pierhead / Pierhead Building); mynediad am ddim.

Sut-all-dysgwyr-gyfrannu-at-fywyd-Cymry-Cymraeg-1


Dani Schlick
Aelod o gymuned leol ac wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017

Sut all dysgwyr Cymraeg gyfrannu at fywyd Cymraeg? – Ymhob ffordd bosibl fel pobl sydd yn cyfrannu at fywyd pobl a chymunedau.
Beth bynnag sydd yn digwydd yn y Gymraeg mewn unrhyw gyd-destun a dach chi’n rhan o’r digwyddiad – boed yn y gymuned, yn y gwaith neu yn eich amser sbâr – dach chi’n cyfrannu at fywyd Cymraeg.
DanielaEnghraifft wych ydy Siân, un o fy ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg, sydd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Alltwen Porthmadog. Dechreuodd hi ddysgu’r Gymraeg achos bod hi – yn Gymraes – isio siarad hen iaith ei gwlad a thrin cleifion yn eu hiaith nhw. Yn ei gwaith mae hi’n mynd i gartrefi cleifion yr ardal, sef Porthmadog, Beddgelert a Blaenau Ffestiniog – ardal Gymraeg iawn. Er mwyn i’r cleifion deimlo’n fwy cyfforddus mae hi’n bwysig iawn siarad eu hiaith gyntaf efo nhw. Mae cleifion Siân yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ac fel bonws bach mae Siân yn dysgu cymaint am iaith yr ardal ac mae hi bellach yn siarad “iaith y brodorion”.
Rydw innau’n siarad Cymraeg ym mhob cyd-destun posibl – efo cydweithwyr yn y gwaith ac wrth gwrs yn fy amser sbâr. Braint a phleser mawr oedd bod yn rhan o gôr yr Eisteddfod yn Ynys Môn 2017 – côr Cymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd yna rai pobl yn y côr oedd yn fy nabod i, ond ddudes i ddim gair wrth neb arall mai dysgwraig Gymraeg ydw i – siarad Cymraeg efo pawb wnes i o’r cychwyn cyntaf. Ella bod aelodau’r côr wedi amau nid siaradwraig iaith gyntaf ydw i.
Felly am syndod iddyn nhw pan gyrhaeddais rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 – braint a phleser arall, gyda llaw. Agoriad llygaid oedd sylweddoli pa mor bwysig ydy cynnwys dysgwyr yn nigwyddiadau Cymraeg a siarad yr iaith efo dysgwyr. Felly, mewn ffordd cyfrannodd hyn at y ffordd maen nhw’n gweld dysgwyr Cymraeg rŵan.
Gadewch i mi roi ychydig o gyngor i chi: Peidiwch â sôn mai dysgwr ydach chi – beth bynnag ydy eich lefel. Smaliwch! Bydd pobl yn sylwi wrth i chi siarad. Ond trwy beidio â dweud y gair “dysgwr” bydd y sgwrs yn fwy naturiol o’r dechrau. Ac unwaith dach chi wedi dechrau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi!


Neil Rowlands
Sylfaenedd, parallel.cymru

Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyon, heriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a’i sefydliadau.

Neil-with-laptop-265
Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda’r term dysgwr.
Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o’r cyfweliadau hynny, derbyniais i’r cwestiwn “Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?”, ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr! Beth bynnag, roedd y broses o sgwennu’r cais yn y Gymraeg a hala amser yn paratoi am y cyfweliad wedi rhoi oriau o amser cyswllt i mi, ac roedd y teimlad fy mod wedi sefyll ar fy nhraed fy hun i gyflwyno cais uchelgeisiol mewn iaith roeddwn i yn dal i’w dysgu wedi rhoi hwb anferth i fi.
Yn hydref 2017 sylweddolais i fy mod i mewn sefyllfa ‘catch-22’ – roeddwn i’n moyn integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, ond doedd dim cyfleoedd i wneud hynny yn fy swydd. Roedd fy niffyg profiad o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy rhoi i dan anfantais wrth gymharu gydag ymgeiswyr eraill, beth bynnag oedd safon fy Nghymraeg.
Sylweddolais fod gen i benwythnosau a nosweithiau i’w defnyddio, a doedd dim angen ffeindio swydd neu gyllid i wneud rhywbeth – gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i’n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro’n i’n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny.
Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllid a gweledigaeth y llywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae’n bwysig i’r gymuned arloesi a thrio pethau newydd.
Mae’r prosiect delfrydol yn cyfuno rhywbeth rydych yn gwybod sut i’w wneud gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn yn gwybod sut i greu a hyrwyddo gwefannau, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud i’r Gymraeg fod yn iaith hygyrch.
Tu ôl y llen, dw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth; mae rhai pobl wedi rhoi o’u hamser i wella safon y cynnwys ar parallel.cymru, e.e. Elgan Davies-Jones, David Sutton a Patrick Jemmer (nodyn- os oes unrhyw wallau iaith ar parallel.cymru, fi sy’n gyfrifol, nid nhw). Hefyd, mae’n rhyfeddol gweld pobl fel Dani, Huw Rowlands, Nicky a Peter yn defnyddio eu amser yn hael i rannu eu sgiliau a’u profiad trwy beth maen nhw’n wneud.
Mae’r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau – os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o’r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan?


Nicky Roberts
Sylfaenydd useyourwelsh.com & youtube.com/learnwelshwithnicky; wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2018

Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd.
Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â ‘mheintiau yn ôl i’m sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd.
Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990.
DSC_0089_2Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda ‘nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny – ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith.
Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i’r rhaglen ‘Say Something in Welsh’. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 350 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd.
Mae’r peth pwysicach dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd http://www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog.
Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i’m llwyddiant dysgu’r iaith – doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre’n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o’i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd!
Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith.


Patrick Jemmer
Cyfieithydd Ask Dr Gramadeg, tiwtor a cyfrannwr rheolaidd i parallel.cymru

Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg yn Nhŷ Tawe yng nghanol Dinas Abertawe, pan ddes i adref o Newcastle lle ro’n i wedi bod yn gweithio, ac rwy wedi bod wrthi ers chwe blynedd erbyn hyn. Rwy’n dwlu ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymreig, ac rwy wastad yn ceisio ymarfer, rhannu syniadau a’m cariad at yr iaith, a dysgu mwy. Ro’n i’n lwcus iawn pan enillais i Dlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 gyda darn o’r enw ‘Pontydd’.
Dros y cyfnod 2012 – 2014 ro’n i’n astudio hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ‘Tystysgrif Addysg Uwch’ mewn Ysgrifennu Creadigol a Seicotherapi (yn Saesneg), gan gynnwys llawer o ymarferion wedi’u seilio ar ‘Ysgrifennu’r Hunan’, a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2014. Felly roedd llawer o syniadau ‘da fi am bynciau ac awgrymiadau creadigol pan ddechreuais i greu cynnwys ar gyfer Parallel.cymru.
Er bod y gwaith Saesneg eisoes wedi cael ei gywiro gan diwtoriaid (diolch yn fawr iawn i Mr Andrew Hubbard a Dr Catriona Ryan am eu cymorth a’u hadborth i gyd), dwi ddim yn cyfieithu fy ngeiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg, fodd bynnag. Erbyn hyn, rwy’n ‘sgrifennu’n syth yn Gymraeg. Profiad mor wych yw meddwl a chyfathrebu yn y Gymraeg. A dweud y gwir yn aml mae’n well ‘da fi sut mae fy ‘llais creadigol’ yn swnio yn y Gymraeg. Rwy’n dwlu ar yr iaith! Nawr rwy’n arbrofi gyda darnau ffeithiol, rhai hunanfynegol, tipyn bach o hiwmor (gweler Ffred Phantastiga’i gastiau — ha ha ha!), a hyd yn oed ychydig ffuglen wyddonol.
Wedyn sefais i’r arholiad Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Ail Iaith fis Mehefin 2017, ac enillais i ‘ragoriaeth.’ Bellach rwy’n ‘neud llawer iawn o waith aruthrol ddymunol i’r wefan Parallel.Cymru, fel awdur, a chan helpu gyda golygu a chyfieithu. Cwrddais i â Neil, reolwr y prosiect yn ystod y dosbarthiadau Cymraeg. Wrth gwrs mae’r proses i gyd yn golygu dysgu drwy’r amser, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau derbyn adborth a chyweiriadau, gan nad ydw i’n arbenigwr, a chan fod pob sylwad adeiladol yn helpu fi i ddysgu a gwella, a dyna f’agwedd at ddysgu a defnyddio iaith. Wedi dweud hynny, rwy’n gallu mynd i’r dafarn a chwrdd â phobl newydd gan sgwrsio yn y Gymraeg heb unrhyw broblemau o gwbl! A heb os, mae’r ysgrifennu a phrawf-ddarllen ac yn y blaen wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth.
Rwy’n hunangyflogedig ar hyn o bryd. Y peth sy’n f’ymysgogi’n gryfa’ yw chwilfrydedd enfawr, ac awydd archwilio pethau newydd, gan ddatblygu a mynegi gallu creadigol. Rwy’n dwlu ar ehangu fy neall a’m dirnadaeth ac ar helpu pobl eraill i ‘neud yr un peth ac i fynd â’r maen i’r wal mewn beth bynnag maen nhw eisiau ei ‘neud.
Rwy’n dysgu gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg i bobl sy’n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hyd yn oed i rai sy’n fyfyrwyr mewn prifysgolion. Rwy wedi bod yn gweithio gyda sawl myfyriwr sy’n mynd i ysgolion cyfun. Rwy’n gweithio wyneb yn wyneb, gyda grwpiau, a thros y rhyngrwyd. Rwy eisiau defnyddio’r iaith Gymraeg yn fwyfwy gyda myfyrwyr, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy weithio fel tiwtor iaith Gymraeg i bobl ifanc ac oedolion hefyd.
Felly, dych chi’n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud ‘shw mae’ yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu’ch profiadau neu’ch syniadau ar Parallel.cymru. Mae pobl yma i’ch helpu chi, felly peidiwch bod yn ofnus. Fel ro’n i’n ddweud, er mod i’n dwlu ar ramadeg, rwy wastad yn dysgu rhywbeth newydd, ac rwy’n dweud diolch o’r galon i bawb sy’n helpu fi. Y peth mwya’ pwysig yw ein bod ni’n gyfeillgar iawn, yn danbaid dros yr iaith, yn gweithio fel tîm, gan annog ein gilydd wrth hybu’r iaith. Pam na fyddwch roi cynnig arni gan ymuno â ni ar ein taith darganfod i’r iaith a diwylliant Cymraeg? Mae’n anhygoel o werth chweil, a llawn hwyl hefyd!


Peter Mescall
Ysgrifennwr Newyddion i Ddysgwyr Newydd a threfnwr cyrisau i ddysgwyr

Tua dwy flynedd yn ôl, o’n i chwilio am rywbeth i wneud. O’n i wedi siarad efo athro arall yn yr ysgol. Gaeth o ei fagu yn y Gogledd ond yn wreiddiol gaeth o ei eni yn Lerpwl. “Siarad Cymraeg?” meddai. Do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Ac wedyn, o’n i’n meddwl: “Pa mor gywilydd- fedra i ddim yn ymateb yn y Gymraeg”.
Felly, mi wnes i benderfynu dysgu’r iaith; yn gyntaf efo Say Something in Welsh. Mae’r cwrs yn wych ond ar y pryd o’n i isio rhywbeth arall. O’n i isio dysgu mwy felly wnes i drio trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr.
Wedyn, o’n i’n darllen parallel.cymru. Mi wnes i sylweddoli bod dysgwyr angen pethau er mwyn helpu nhw dysgu geirfa newydd. Wnes i anfon neges at Neil….”Liciwn I drio sgwennu’r newyddion yn y Gymraeg- cyfle i ymarfer darllen a hefyd dysgu geiriau newydd”
A dyna ni. Dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i mor falch oherwydd bod pawb yn medru cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg dros y penwythnos. Hefyd y newyddion- dw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau cyfrannu’r newyddion.
Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo eich bod chi’n cael y cyfle i wella hefyd.


Sam Brown
Ieithydd a Swyddog Marchnata Digidol i Wasg Gomer

Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i’n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i’n gwybod mod am ddysgu mwy o’r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i’n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu’r iaith.
Ers wedyn mae’r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i’m bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol.
Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru.
Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cwarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio.
Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd.
Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle!

Adolygiad Llyfr: Cofio Anghofio gan Alan Maley

Roeddwn i wrth fy modd yn darllen y llyfr yma, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Petai gen i amser ar y pryd, byddwn wedi gallu ei orffen mewn un eisteddiad.

Mae’r cymeriadau yn gredadwy – rydych yn teimlo fel eich bod angen dewis un ochr dros y llall wrth ddarllen am weithredu mewnol y teulu sy’n agos at drasiedi.

CofioAnghofio
Dw i’n medru gweld pobl wahanol yn cefnogi cymeriadau gwahanol, yn dibynnu ar ba fath o berson y’ch chi. Mae yma’r dyn busnes efo calon garreg, sef Huw; y ferch Catrin sydd wedi newid llawer ers symud i fyny i’r gogledd; ei chwaer Siân gyda chalon mor garedig, a mam y teulu.

Mae’r hyn mae Elin Meek wedi’i wneud gyda’r llyfr wrth ei addasu yn wych. Mae hi wedi rhoi ychydig bach o ymdeimlad Cymraeg i eiriau Alan Maley heb dynnu gormod i ffwrdd o’i darged.

Yr unig beth dw i’n medru ei ddweud yn erbyn y llyfr yw ei fod yn 114 tudalen. Byddwn i wedi medru cario ymlaen i’w ddarllen am 100 tudalen arall, petai modd cael dilyniant.

Mae’r stori yn datblygu wrth inni droi pob tudalen ac mae’r stori yn ddigon i gadw eich diddordeb ac yn eich gadael chi ag awydd am ddarllen mwy. Byddwn i’n argymell y llyfr hwn i unrhyw un sydd eisiau darllen rhywbeth lle maen nhw’n gallu uniaethu â’r stori. Dych chi’n teimlo bod popeth yn adeiladu wrth i’r stori symud ymlaen.

Roeddwn i synnu pa mor hawdd oedd y llyfr i’w ddarllen. Fel rhywun sydd yn ffeindio llyfr lefel uwch yn anodd weithiau, roeddwn i’n synnu pa mor hawdd oedd e i ddilyn y stori ac ymlacio wrth ddarllen.

Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd yn gallu darllen lefel uwch yn gyfforddus. Hefyd, os dych chi’n darllen lefel isaf ac eisiau datblygu eich sgiliau darllen rydw i’n medru dweud y bydd y llyfr hwn yn hollol addas i chi, yn enwedig gyda’r geiriau defnyddiol ar waelod pob tudalen.

Doeddwn i ddim yn ffeindio’r llyfr hwn yn anodd o gwbl ac yn fwy pwysig, roeddwn i’n mwynhau dod i nabod y cymeriadau. Roeddwn i’n ffeindio fy hun weithiau yn darllen yn hytrach na mynd i gysgu, pan ddylwn i fod wedi mynd i gysgu rai oriau yn ôl!

Nicky Roberts 

Gellir defnyddio’r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar http://www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from http://www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Neil Rowlands – Parallel.cymru

Creu’r cylchgrawn ar-lein dwyieithog newydd parallel.cymru, gan Neil Rowlands

Mae parallel.cymru yn gylchgrawn ar-lein newydd, sydd yn darparu cynnwys Cymraeg-Saesneg ochr-yn-ochr gan gyfranwyr sydd yn  gweithio, creu, defnyddio a dysgu’r iaith.Mae parallel.cymru yn gylchgrawn ar-lein newydd, sydd yn darparu cynnwys Cymraeg-Saesneg ochr-yn-ochr gan gyfranwyr sydd yn  gweithio, creu, defnyddio a dysgu’r iaith.Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg yn Ne Cymru am y pedair blynedd ddiwethaf, ac ar ôl gwneud cynnydd trwy’r deunyddiau darllen sy’n addas i ddysgwyr, e.e. y cylchgrawn Lingo Newydd, cyfieithiadau o ffuglen i’r arddegau fel Roald Dahl a JK Rowling, Straeon Sydyn a llyfrau Bethan Gwanas a Lois Arnold, fe wnes i ffeindio’r cam i lyfrau a chylchgronau iaith gyntaf yn anodd.  Gwnes i ymchwilio i ddeunyddiau mewn ieithoedd eraill a sylweddolais bod llawer o lyfrau a gwefannau i ddarllen yn paralel, yn paru ieithoedd gyda’i gilydd, fel Sbaeneg-Saesneg a Ffrangeg-Saesneg, gyda chynnwys wedi’i osod ochr-yn -ochr.
Mae profiad gyda fi o greu a marchnata gwefannau, ac wrth wirfoddoli mewn canolfannau a gweithgareddau iaith dw i wedi dod i nabod rhai pobl yn y gymuned.  Felly ym mis Hydref, gwnes i daflu’r profiadau yma at ei gilydd, gofynnais i rai ffrindiau i wneud cyfweliadau a gwnes i eu rhoi nhw ar wefan syml.  Roedd yr adborth oddi wrth bobl yn bositif, felly gwnes i i’r wefan edrych yn broffesiynol a dywedais wrth fwy o bobl amdani hi.  Ym mis Tachwedd 2017 gwnes i ymestyn y marchnata i gynnwys Say Something In Welsh, Trydar, ymddangosiadau ar S4C, postiadau i ganolfannau Dysgu Cymraeg, a lledaenu’r gair ar lafar wrth gwrs.

Neil-with-laptop-265
Yn lle bod yn blog cyffredin, dw i’n canolbwyntio ar roi persbectif person cyntaf ar y byd Cymraeg.  Felly, pobl sy’n ysgrifennu, rhedeg busnesau, trefnu gweithgareddau, creu cerddoriaeth a chelf, neu sydd â stori ddiddorol i’w hadrodd, sy’n rhannu eu profiadau.  Mae hyn yn golygu y bydd cynnwys unigryw a safonol i chi ei fwynhau bob tro y byddwch yn dod i’r wefan.
Mae pob erthygl yn cael eu trefnu yn ôl safon yr iaith, felly mae pobl yn gallu darllen Cymraeg yn syml fel mae pobl yn siarad, Cymraeg ysgrifenedig safonol, neu Gymraeg ffurfiol fel sy’n cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth.  Mae darparu Saesneg ochr yn ochr yn golygu ei bod yn hawdd iawn i wirio ystyr gair neu frawddeg.  Wrth wneud hyn dw i’n gobeithio y bydd pobl yn gallu dod yn fwy cyfarwydd gyda darllen Cymraeg, a datblygu eu dealltwriaeth a’u gallu dros gyfnod o amser.
Nodwedd bwysig arall yw y bydd y cynnwys yn aros ar-lein- yn wahanol i gylchgronau a gwefannau eraill ble mae cynnwys defnyddiol ac eithriadol yn diflannu wrth gyhoeddi’r rhifyn nesaf.  Felly, dros amser, bydd parallel.cymru yn tyfu’n gorpws o sut mae pobl yn defnyddio a rhyngweithio gyda’r iaith.

parallel
Un o fy nodau tymor hir yw i ddarparu ffuglen wreiddiol, yn y ffurfiau hir a byr.Darparu cyfeithiadau o lyfrau Saesneg adnabyddus sy mas o hawlfraint sy’n helpu i wneud darllen Cymraeg yn haws. Hefyd, sicrhau bod ffuglen Gymraeg gyfoes ar gael gyda chyfiethiad Saesneg yn cyflwyno pobl i lenyddiaeth ac ysgrifenwyr Cymraeg.Mae nodau tymor hir eraill yn cynnwys:

  • Darparu canllaw gramadeg dwyieithog;
  • Cyhoeddi papurau sydd o fewn cyrraedd pawb gan academyddion a myfyrwyr ôl-raddedig yn esbonio eu gwaith i gynulleidfa eang;
  • Gweithio gyda thiwtoriad Cymraeg i Oedolion i ddarparu adnoddau am ddysgu anffurfiol;
  • Creu erthyglau Sbaeneg-Cymraeg neu dair-ieithog i gefnogi pobl yn y Wladfa.

Ar hyn o bryd, dw i’n rhedeg parallel.cymru fel hobi yn fy amser sbar.  Achos bod yr holl gynnwys yn mynd i fod ar gael am ddim, roedd yn rhaid i fi meddwl am fodel gweithredu cynaliadwy.  Mae llawer o wefannau eraill yn ennill arian trwy gyfeirio at Amazon, ond dw i’n moyn hybu busnesau Cymreig, felly dydw i ddim yn mynd i wneud hynny.  Mae gwefannau eraill yn gwthio hysbysebion a chlipiau sy’n chwarae’n awtomatig, ond dydw i ddim moyn tynnu oddi ar y cynnwys unigryw sydd ar gael yma.Yn hytrach, rwy’n bwriadu sefydlu parallel.cymru fel menter elusennol, paratoi ceisiadau grant, ac yn ddiweddarach,  darparu cyfleoedd i gwmnïau noddi’r wefan drwy gael postiad wythnosol sy’n esbonio eu cynnyrch.
Fodd bynnag, y rhannau pwysicaf o parallel.cymru yw ei chyfranwyr a’i darllenwyr, felly dw i’n diolch o waelod calon i’r nifer fawr o bobl sy’n cefnogi ac yn mwynhau’r prosiect hwn.
Os oes arbenigedd dych chi’n moyn ei rannu neu stori dda i’w hadrodd, cysylltwch gyda fi ar parallel.cymru@gmail.com.
Mwynhewch y darllen!

Adolygiad: Crwst, Aberteifi

Crwst1.jpg

Crwst, Aberteifi.

Dw i’n ffan mawr Aberteifi, ond rhaid i fi ddweud bod dw i ddim yn teithio i lawr i Aberteifi a cymaint a dylwn i, enwedig ar ol byw 40 milltir i lan y ffordd yn unig yn Aberystwyth ers blwyddyn a hanner nawr.

Er mwyn dweud hynny yn well, y tro diwethaf gwnes i ymweld Aberteifi, roedd y caffi dal beth wedi bod am amser maith adeilad wag a “rundown”.

SiopYCardi

Crwst, cyn wnaethon nhw symud i fewn!

Roedd fy ffrind Nic wedi bod yn ddweud pethau gwych am y caffi dros y wythnosau diwethaf oherwydd eu wasanaeth yn y Gymraeg ac eu ddioddydd gwych, felly ysgrifennais i nodyn i gwneud yn siwr bod tro nesaf ffeindias i fy hun gyda ychydig oriau sbar, dylwn i alw i lawr.

Gyda fy ngwraig i brysur gyda gwaith a dim Cwpan y Byd i ddadlau gyda, Gwnes i’r taith lawr i Aberteifi er mwyn trio ffeindio fe (Doeddwn i ddim wedi gwneud y peth clefur a Gwglo fe neu dim byd!) felly.. dychmygwch fy syndod pan syweddolais i y lle newydd wedi ffeindio cartref mewn y hen “Siop y Cardi”

Mae’r lle yn ddisglair ac yn agored gyda nenfwd uchel, mae’r dodrefn yn gymysgedd o fyrddau pren a chadeiriau gyda rhai setiau rhyngddynt yn dwyn o gwmpas y lle.

O ran yr hyn sydd ar gael, mae yna dair ardal ar wahân – y bar coffi, y bar bwyd a’r bar bar, sef yfed alcohol a diodydd meddal!

Crwst3

Felly, cerddais i dros y bar coffi ac oeddwn i’n hapus iawn i chlwyed staff yn cyflwyno eu hunain yn yr iaith Cymraeg.

“Oes gennych chi llaeth soy?” Gofynnais i.
“Oes” daeth yr ateb.
Ges i sgwrs gyda’r hogyn tu ol y cownter am munud neu ddau, dywedais i wrth fe jyst pa mor dda oedd y lle newydd ac oeddwn i wedi clywed llawer o adolygion ardderchog amdano nhw.

Crwst2

Mae Crwst yn denu cymysgedd ddiddorol o bobl, a ddangosir gan y clientelle yn bresennol. Y tu ôl i mi, roedd gen i grŵp o ffrindiau 30-rywbeth, a gyrhaeddodd yn 2.02yp, 2 funud yn hwyr i’r Brunch a ddaeth i ben am 2yp, ond er ei bod ychydig yn rhy hwyr, cymerodd Crwst eu gorchymyn a’u gwasanaethu i gyd yn yr amser a gymerodd fi i orffen fy nghoffi.

Roedd fy nghoffi yn gwych,

My coffee was superb, wedi ei wneud a’i weini’n arbenigol gan wraig gyfeillgar a oedd yn awyddus i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn – a hyd yn oed yn dod i fi ychydig funudau yn ddiweddarach i wirio dyblu

Crwst4

Soy Cappuccino, sbectol haul Primark, Cymraeg lanyard ac alweddi Ford Fiesta.

Pan fyddwch chi’n ymweld â Crwst fe gewch chi groeso cynnes i Gymru, staff hyfryd, cyfeillgar a choffi gwych!

Dw i’n gallu awgrymmu yn llwyr os byddech yn yr ardal!
Nicky.

Tiliau Hunan-wasanaeth / Self-service tills (ERTHYGL SAESNEG)

Tesco2

Love them or hate them? Sometimes if you want to Use your Welsh! Self-service tills are the only option available to us as customers.

A lot of people struggle with the moral dilemna of using these machines because it has been pretty well documented that every self-service machine potentially replaces a human worker.

But where do you stand if these machines are your only option for using Welsh?

In my local smaller Tesco (the high street type that sells a smaller range of goods) there are unfortunately no Welsh speakers, despite being in a town that is still very Welsh-speaking. The situation is different in the bigger Tesco supermarket on the other side of town, where most days of the week I can still be served by a Welsh speaker, who are largely easily identifiable as they all wear the orange “Cymraeg” badges to show that they can speak Welsh.

As someone who wants to use Welsh at every single opportunity this presents a bit of a problem, as not only do I want to use Welsh in order to complete my transaction but I suppose there’s also a part of me that is also using the machine through the medium of Welsh in order to show someone higher up in the office at Tesco that there is a need for staff to speak the language in Welsh-speaking areas.

Maybe I’m fooling myself but I know somewhere, in an office in Luton or something, that someone is looking at the statistics for how many people actually chose the Welsh option on these tills.

You also get these little lovely moments when you hear someone else using one of these tills in Welsh and you exchange a knowing glance and a nod!

Tesco1

The thing is, I actually had a reason to raise a complaint with Tesco (yes I am THAT person!) last year. I took exception to something the machine said to me, I can’t even remember what it was that set me off but it was some kind of spelling mistake or similar.

So I raised my complaint and I was disappointed to find that according to Tesco Customer Services, I had been the first person to EVER complain about the quality of the spelling on these machines.

Which got me thinking… how many of us are actually using the Welsh option on these machines? I thought about asking a cheeky question back to Tesco Customer Services, “Can you tell me how many people actually use the Welsh language option at my local store in Aberystwyth?”

I was thinking “May as well ask it?”, after all they probably didn’t know or they’d ask me to complete a Subject Access Request or write to Head Office or something similar…

Actually, they came back to me within about ten minutes..

“Approximately 1 in every 5000 transactions on our Self-service machines are conducted in Welsh”

Which really deflated me. Now admittedly Aberystwyth isn’t the hotbed of Welsh language that it was 50/100 years ago, but there are still thousands and thousands of Welsh speakers here and I believe Ceredigion as a county still has a figure of 57% of people being able to speak the Welsh language.

So, why are so few of us using the Welsh language option on these machines?

Obviously the answer is that we’re all fluent in English as well, but does it run further than this? Is there anything these supermarkets can do to highlight the availability of these options? Take a look at the photo above? “Cymraeg” appears as a small button tucked away in the bottom right hand corner.

Comically in towns such as Caernarfon, where something like 85% of conversations happen through the medium of Welsh, English is still the default option and you’d be just as unlikely to find someone actually using the machines in Welsh.

So what is the answer? Should companies like Tesco, Asda and co look at making changes to these machines in order to better represent the areas in which they operate? Should these supermarkets be looking to employ more Welsh speakers in these areas?

Let us know your thoughts on the subject.